Baby Friendly Award i Brifysgol Bangor

Sheila Brown, Cyfarwyddwr Cwrs y Rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth yn derbyn llongyfarchiadau Ms Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched y Bwrdd Iechyd lleol, ar lwyddiant yr Ysgol. Sheila Brown, Cyfarwyddwr Cwrs y Rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth yn derbyn llongyfarchiadau Ms Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched y Bwrdd Iechyd lleol, ar lwyddiant yr Ysgol. Prifysgol Bangor yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn y Baby Friendly Award bwysig, a hi yw'r brifysgol ddiweddaraf i gael ei chydnabod gan Unicef UK am lefelau uchel hyfforddiant mewn bwydo o'r fron a roddir i fyfyrwyr ar ei chwrs bydwreigiaeth. Caiff myfyrwyr bydwreigiaeth a gofrestrir ar y cwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor eu dysgu gan staff yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ar gampysau Wrecsam a Bangor ac maent yn mynd i leoliadau ar draws Gogledd Cymru.

Derbyniwyd y wobr yn ddiweddar gan  darlithwyr cwrs Bydwreigiaeth a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a llongyfarchwyd hwy gan gynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Fe wnaethom benderfynu gweithio gyda'r Baby Friendly Initiative i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr bydwreigiaeth sy'n graddio o'r cwrs yma'n cael hyfforddiant o safon uchel mewn bwydo o'r fron," meddai Sheila Brown, y Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg a Chyfarwyddwr Cwrs y Rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.

"Rydym yn gwybod bod llawer o ferched yn rhoi'r gorau i fwydo o'r fron cyn y maent eisiau gwneud hynny oherwydd trafferthion y gellid bod wedi eu hosgoi pe bai cymorth medrus wrth law.  Trwy sicrhau bod ein myfyrwyr wedi cael hyfforddiant llawn ar sut i helpu mam i fwydo ei phlentyn o'r fron, bydd mwy o ferched yn gallu bwydo eu babanod o'r fron am gyfnod hirach."

Aeth Sheila ymlaen i egluro:

"Mae bwydo o'r fron yn amddiffyn babanod rhag nifer o afiechydon difrifol, yn cynnwys gastroenteritis a heintiau resbiradol mewn babandod, yn ogystal ag alergeddau a diabetes mewn plentyndod.  Rydym yn gwybod hefyd bod bwydo o'r fron yn lleihau'r perygl i'r fam gael rhai mathau o ganser - er y gall mamau fod â mwy o ddiddordeb clywed ei fod yn haws, yn rhatach ac yn llai trafferthus na bwydo gyda photel." 

"Ond sut bynnag y mae mam yn dewis bwydo ei babi, gall fod yn sicr y bydd yn cael cefnogaeth i ffurfio perthynas gref a chariadus gyda'i babi newydd - trwy gael y mwyaf o gyswllt croen wrth groen a deall sut mae ei babi'n cyfathrebu efo hi a'i fod angen iddi ymateb."

Mae'r Baby Friendly Initiative, a sefydlwyd gan Unicef a Sefydliad Iechyd y Byd, yn rhaglen fyd-eang sy'n rhoi ffordd ymarferol ac effeithiol i wasanaethau iechyd wella'r gofal a ddarperir i holl famau a babanod.  Yn y Deyrnas Unedig, mae'r cynllun yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus y DU i warchod, hyrwyddo a chefnogi bwydo o'r fron a chryfhau cysylltiadau rhwng mam-babi a theuluoedd.  Mae cefnogaeth i'r cysylltiadau hyn yn bwysig i bob babi, nid yn unig rhai sy'n cael eu bwydo o'r fron.

Cafodd y Baby Friendly University Award ei lansio yn y DU yn 2008 - y wobr gyntaf o'i bath yn y byd - er mwyn sicrhau bod hyfforddiant o safon uchel mewn bwydo o'r fron yn cael ei gynnwys mewn cyrsiau hyfforddi i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd.  Mae'r wobr i brifysgolion yn cydnabod bod prifysgol yn defnyddio'r arfer gorau gyda hyfforddiant bwydo o'r fron, a'i bod wedi pasio asesiad allanol trylwyr gan staff Unicef UK.

"Rydym yn hynod falch bod Prifysgol Bangor wedi derbyn y wobr hon," meddai Sue Ashmore, cyfarwyddwr y Baby Friendly Initiative Programme. 

"Mae arolygon yn dangos i ni bod y rhan fwyaf o famau eisiau bwydo o'r fron ond nad ydynt bob amser yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen.  Mae derbyn y wobr hon yn dangos bod Prifysgol Bangor yn rhoi sylw i'r broblem hon ac yn anelu at sicrhau y gall mwy o famau fwydo eu babanod o'r fron yn llwyddiannus yn y dyfodol.”

Meddai Sharon Breward MBE, Cydlynydd Bwydo Babanod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rwyf wedi plesio’n fawr bod ein cwrs hyfforddi Bydwreigiaeth wedi ei achredu gan Unicef UK. Mae ein tair uned mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Wrecsam pob un efo achrediad Baby Friendly Initiative Unicef ac mae achrediad y cwrs hyfforddiant cyn-gofrestru  yn golygu  y bydd cynnal safonau ymarfer orau Unicef yn gynaliadwy at y dyfodol.

Llongyfarchiadau lu i bawb yn yr adran hyfforddi Bydwreigiaeth ar fod y cwrs gyntaf yng Nghymru i dderbyn yr acolâd.”

Ychwanegodd Ms Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei llongyfarchiadau gan ddweud:

“Mae hyn yn fenter o bwys gan fod ganddo botensial i gael effaith sylweddol a phositif ar iechyd cyhoeddus.”

Mae'r adran fydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn ddiweddar wedi datblygu modiwl a thystysgrif ôl-radd mewn cefnogi bwydo o'r fron i ddatblygu ymhellach wybodaeth bydwragedd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn iddynt gefnogi merched i fwydo o'r fron yn llwyddiannus.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018