Myfyrwyr Bangor yn cael llwyddiant yn seremoni gyntaf Gwobrau Nyrs y Flwyddyn

Mae dau fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobrau yng Nghaerdydd yn ddiweddar  yn y seremoni gyntaf Nyrs y Flwyddyn  i’w chynnal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.Georgina Hobson           Georgina Hobson

Llwyddodd y ddau  i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer  Gwobr Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn, un o 10 gategori a gyflwynwyd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru. Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn ar gyfer 2013 i Georgina Hobson a daeth Anthony Green yn ail iddi. Derbyniodd  Georgina £500  yn wobr gyntaf ac Anthony £250 yn ail wobr.

Mae'r ddau wedi cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor lle buont yn astudio Nyrsio, gan arbenigo mewn Nyrsio Anableddau Dysgu. Byddant yn graddio fis Gorffennaf 2013.

Dywedodd Dr Malcolm Godwin, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, "Mae hwn yn gamp ardderchog i’n myfyrwyr a hefyd i Brifysgol Bangor. Mae'n dangos ymrwymiad ein myfyrwyr a’r safon ardderchog o addysgu a geir yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ddau fyfyriwr yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r proffesiwn nyrsio a gofal drwy gydol eu gyrfaoedd."

Daw Georgina Hobson o Gyffordd Llandudno ac mae hi bellach yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsy Cadwaladr fel Dadansoddwr Ymddygiad yn y gwasanaeth anghenion cymhleth,  sydd wedi’i leoli ym Mryn y Neuadd, yn Llanfairfechan.

Mae Antony Green o Benmaenmawr yn gweithio fel Swyddog Rhanbarthol ar gyfer MENCAP  yn y Gogledd Orllewin.Anthony Green            Anthony Green 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013