Dathlu Bydwraig y dyfodol

Cynhaliwyd digwyddiad 'Fy Nyfodol, Fy Mydwraig' yn ddiweddar yng Nghaerdydd i ddathlu lansiad safonau newydd y dyfodol. Nod hyn yw arfogi bydwragedd y dyfodol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu i ddarparu'r gofal mwyaf diogel a gorau i'r merched, y babanod a'r teuluoedd sydd dan ein gofal. 

Aeth Alice Holman a Sioned Jones, ysgrifennydd a chadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth Prifysgol Bangor, i'r digwyddiad gyda Sheila Brown, y Fydwraig Arweiniol dros Addysg yng ngogledd Cymru. Tra roeddent yn y digwyddiad, bu iddynt gyfarfod â'r bydwragedd arweiniol eraill dros addysg a myfyrwyr o Abertawe, Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. 

Dywedodd Alice Holman am y profiad “Roeddem hefyd mor falch o gwrdd ag aelodau o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn cynnwys y cadeirydd Phil Graf. Roedd yn anhygoel cwrdd â rhai o gynghorwyr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn cynnwys yr Athro Mary Renfrew a'r Athro Gwendolen Bradshaw. Dyma rai o'r gweithwyr proffesiynol anhygoel a thalentog a ddaeth i'r digwyddiad, yn cynnwys yr holl fydwragedd eraill yn y dyfodol a fydd yn helpu i fynd â'r safonau newydd hyn ymlaen i'r dyfodol.” Mae rhaglen bydwreigiaeth Bangor yn gweld y mathau hyn o brofiad i fyfyrwyr fel elfen bwysig yn eu haddysg. Crynhodd Alice effaith y dydd arni trwy ddweud “Rwyf wedi cael cymaint o’r diwrnod yng Nghaerdydd yn cynnwys cyfarfod a sgwrsio gyda’r holl fydwragedd dan hyfforddiant gwych eraill o bob rhan o Gymru, y broses o ddatblygu’r safonau newydd hyn a’r angen i ddarparu'r gofal gorau y gallwn yn y dyfodol.”

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2020