Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor

Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd.

Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.

Angharad Wilkie, ymchwilydd PhD o Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol sydd wedi trefnu’r digwyddiad, er mwyn ddangos y cydweithrediad sy’n bodoli rhwng y Brifysgol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, Gofal Canser Tenovus ac Ymchwil Canser Cymru.

Bydd panel holi ac ateb ar ddiwedd y sesiwn yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r ymchwilwyr.

Mae’r sgyrsiau  wedi eu llunio ar gyfer cynulleidfa eang, felly dylai pawb allu deall y derminoleg a mwynhau'r noson.

Bydd raffl hefyd yn cael ei chynnal ar y noson, gyda thocynnau RibRide (Porthaethwy) yn wobr gyntaf, talebau marchogaeth yng nghanolfan farchogaeth Ynys Môn yn ail wobr a thalebau Pontio yn drydedd wobr, ynghyd â detholiad o wobrau llai.

Mae'r digwyddiad ar agor i bawb ac nid oes angen archebu o flaen llaw.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020