Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar stondin y Brifysgol ar y Maes, gyda phob math o weithgaredd ar agor i bawb, o’r aduniad i gyn-fyfyrwyr ar brynhawn Mercher, sydd, yn y degawd diwethaf, wedi ennill ei blwyf fel un o ‘draddodiadau’ diweddar yr Eisteddfod, at y gerddoriaeth fyw ar y stondin brynhawn Gwener. Eleni gwahoddwyd Band Pres Llarregub i ddiddanu gyda’u sain unigryw am 2.00 ddydd Gwener, i’w dilyn gan Gôr Aelwyd Neuadd John Morris Jones y Brifysgol, a Fleur de Lys i chwarae’n fyw ar brynhawn Sadwrn olaf yr Eisteddfod.

Bydd ail gyfle i brofi Llechi, noson lwyddiannus o gerddoriaeth a geiriau dan gyfarwyddyd y grŵp gwerin 9Bach yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol ar 7 a 9 Awst. Bydd Pontio hefyd yn cynnig cip ar brojectau cyfredol yn ogystal â rhagflas o brojectau’r dyfodol ar y maes drwy’r wythnos, gan gynnwys rhan o broject Llif a fydd i’w weld yn y Lle Celf a thafluniadau digidol o ‘Caban’, project barddoni gyda phlant ysgolion lleol a fydd yn cael ei arddangos o gwmpas y Maes.

Bydd y Brifysgol yn cynnal amrediad o weithgareddau yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan adlewyrchu amrediad o wyddorau seicoleg, ffotoneg  a chemeg, i wyddorau môr, technolegau iaith a chyfrifiadureg, a fydd yn denu a diddanu plant (o bob oedran!). Prifysgol Bangor yw un o brif noddwyr Pabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eto eleni, gan adlewyrchu ymroddiad y Brifysgol i gydweithio efo’i chymunedau ac i hybu pynciau’r gwyddorau, peirianneg a mathemateg. Yr Athro Alan Shore o Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol yw Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod. Bydd yr Athro Shore yn traddodi Darlith Wyddoniaeth yr Eisteddfod eleni, yn ogystal â darlith Eisteddfod Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yn ddiau, prif gystadlaethau’r Eisteddfod yw uchafbwyntiau’r wythnos. Eleni bydd beirniadaeth Cystadleuaeth y Fedal Rhyddiaith yn cael ei thraddodi gan Yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg a’r Athro Peredur Lynch yn traddodi’r feirniadaeth yng Nghystadleuaeth y Gadair ddydd Gwener.

Manon Wyn Williams, Darlithydd Sgriptio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg sydd wedi ysgrifennu Hollti, drama Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cael ei pherfformio gydol yr wythnos yn Ysgol Bodedern, cyn mynd ar daith drwy Gymru nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae nifer o unigolion eraill o’r Brifysgol hefyd yn chwarae rhannau blaenllaw yn yr Eisteddfod, gan draddodi darlithoedd gwadd, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrafodaethau o bob math.

Meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned:

“Mae gwreiddiau’r Brifysgol yn ddwfn yn y gymuned leol, ac uchafbwynt blynyddol yw cael mynychu’r Eisteddfod a rhoi’r cyfle i’n staff rannu peth o’u gwaith a’u brwdfrydedd gyda’r cyhoedd drwy gyfrwng gweithgareddau, darlithoedd a digwyddiadau lu. Uchafbwynt arall, wrth gwrs yw’r cyfle i gwrdd â chynnal ein cyswllt gyda chyn-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ac yn wir, â’r rhai hynny o bob cwr o’r byd sy’n dod draw i’n stondin yn ystod yr wythnos.”

Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017