Trin gwenwyn clorocwin

Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19. 

Mae clorocwin, sef hen gyffur a ddatblygwyd i drin malaria, a hydrocsiclorocwin, cyffur sy'n gysylltiedig, a ddefnyddir i drin clefydau awtoimiwn, yn cael eu hystyried fel triniaethau posibl ar gyfer COVID-19. Cawsant eu hawdurdodi i'w defnyddio at ddibenion yr argyfwng gan y Food and Drug Administration yn yr Unol Daleithiau, ac mae canllawiau clinigol yn argymell eu defnyddio i atal a thrin COVID-19 mewn sawl gwlad.

Fodd bynnag, mae'r ddau gyffur yn wenwynig o gymryd dos uchel ohonynt. Mae adroddiadau wedi dod i’r amlwg o sawl achos o orddosio, gan arwain at farwolaeth mewn rhai achosion. Mae gwerthusiadau diweddar o'r defnydd o chloroquine a hydroxychloroquine mewn cleifion â COVID-19 wedi cadarnhau eu heffeithiau gwenwynig ar y galon.

Mae'r argymhellion cyfredol ar gyfer rheoli achosion o wenwyno yn cynnwys y cyffur, diazepam. Fodd bynnag, mae ansicrwydd o ran a yw diazepam yn gweithio yn y cyd-destun hwn.

Roedd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. yn cynnwys modelau arbrofol o docsisedd clorocwin ac astudiaethau o effeithiau diazepam. Dangosodd y canlyniadau nad yw diazepam ar ei ben ei hun yn lleihau effeithiau clorocwin ar y galon, ond mae yn gwella gweithrediad y galon o'i ddefnyddio mewn cyfuniad ag adrenalin - cyffur arall a ddefnyddir i reoli tocsisedd clorocwin.Cyhoeddir yr ymchwil yn y British Journal of Pharmacology.

(Diweddarwyd ar gyhoeddiad y papur 28.5.20)

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020