Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU


Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy’n graddio o bob prifysgol yn y DU, yn rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.

Meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymateb i’r canlyniadau:

"Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhad gwych o'n gweithgareddau ac, yn wir, o werthoedd Prifysgol Bangor.  Mae gennym enw da am ddarparu addysgu a chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr, ac mae'r canlyniadau gwych hyn yn adlewyrchu hynny. Bydd y data hefyd yn ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr, a fydd yn penderfynu lle i fynd i brifysgol yn ystod yr wythnosau nesaf."

Llwyddodd tri chwrs gradd ar ddeg i ennill sgôr boddhad o 100% gan y myfyrwyr a llwyddodd naw maes pwnc cyffredinol hefyd i ennill sgôr boddhad o 100%, sy'n eu gosod ar frig tabl eu pwnc yn y DU.  Mae sgôr boddhad cyfartalog Prifysgol Bangor o 90% yn uwch na'r sgôr cyfartalog o 84% yn y DU a Chymru.

Priodolwyd y llwyddiant gan uwch aelodau staff y brifysgol i safon uchel yr addysgu a'r profiad a gaiff myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â pharodrwydd y brifysgol i gydnabod unrhyw broblemau a gaiff myfyrwyr unigol a rhoi sylw iddynt.

Elain Haf Elis, sydd newydd raddio yn y GymraegElain Haf Elis, sydd newydd raddio yn y Gymraegeddai'r Athro Turnbull:

"Wrth gwrs, mae'r staff i gyd yn cyfrannu at ein hymroddiad i'r myfyrwyr ac i ansawdd eu profiad ym Mangor, mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr academyddion sy’n traddodi’r darlithoedd, ond hefyd y staff technegol sy’n cynnal y labordai, y myfyrwyr PhD sy’n cynorthwyo gyda thiwtorialau, ein gweinyddwyr, a phob adran wasanaeth sy'n sicrhau bod bywyd yn y brifysgol yn mynd rhagddo'n ddidrafferth. Hoffwn ddiolch i'n holl staff a hoffwn hefyd ddiolch i'n graddedigion diweddar am roi cystal adborth am y brifysgol. Rydym yn gobeithio y byddant yn cadw cysylltiad â chymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor."

Meddai Elain Haf Elis o Abergele sydd newydd raddio yn y Gymraeg:

“Dros gyfnod o dair blynedd rwyf wedi wedi cael profiadau cofiadwy i'w trysori am oes! Roedd y cwrs yn hynod ddiddorol ac yn berthnasol iawn i'r oes a'r byd gwaith sydd ohoni. Mae'r brifysgol hefyd wedi cynnig profiadau gwerthfawr megis y cyfle i gyd-weithio â'r adran farchnata mewn diwrnodau agored, eisteddfodau ac hefyd gyda’r Rhaglen Dawn a Chyfle. Rwyf wedi mwynhau fy hun i’r fath raddau ym Mangor, a gan fod safon y dysgu yn ardderchog, rwyf am ddychwelyd yn ôl i Fangor fis Medi i ddilyn cwrs ôl-radd TAR Dysgu  Uwchradd.”

Un arall bodlon yw Steffan Nicholas o Gaerfyrddin, myfyriwr yn yr Ysgol Addysg. Meddai yntau:

“Mae Bangor yn lle gwych i astudio, rhwng y môr ar mynydd a golygfeydd godidog y gogledd. Mae'n lle clós ac yn fan perffaith ar gyfer gwneud ffrindiau a chymdeithasu gyda llu o bobl, yn gyd-Gymry ac eraill o bedwar ban byd. Roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn ysgoloriaethau er mwyn astudio yma ac mae'r gefnogaeth honno wedi bod yn allweddol wrth imi fynd ati i gyflwyno aseiniadau. Mae Bangor hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr i wirfoddoli, i fod yn rhan o dîm chwaraeon ac i ymaelodi â chymdeithasau amrywiol. Rwy’n hynod falch fy mod yn rhan o'r gymdeithas Mae Steffan Nicholas o Gaerfyrddin, yn fyfyriwr yn yr Ysgol AddysgMae Steffan Nicholas o Gaerfyrddin, yn fyfyriwr yn yr Ysgol AddysgGymraeg yma ym Mangor ac yn mwynhau’n arw cael byw a chymdeithasu yn neuadd John Morris-Jones.”

Dyma'r 13 cwrs gradd a gafodd sgôr o 100% am foddhad cyffredinol: Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol/Seicoleg, Cymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddor yr Amgylchedd, Bioleg/Sŵoleg y Môr, Cerddoriaeth, Athroniaeth a Chrefydd, Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd, Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored), Gwyddorau Chwaraeon, Sŵoleg, Sŵoleg gyda Herpetoleg

Dyma'r naw maes pwnc a gafodd sgôr o 100%: Archaeoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Dylunio, Astudiaethau Ffrengig, Astudiaethau Iberaidd, Newyddiaduraeth, Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth ac Athroniaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017