Datganiad ar y cyd ynglŷn â myfyrwyr bydwreigiaeth yn dychwelyd i'r gwasanaeth bydwreigiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor yn cydnabod bod rhagoriaeth yn addysg a hyfforddiant bydwragedd yn bwysig am ddau reswm allweddol. Yn gyntaf, byddwn yn sicrhau gweithlu bydwreigiaeth at y dyfodol. Yn ail, gall darparu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr bydwreigiaeth gyfrannu at y diwylliant cyffredinol o ddysgu a datblygu o fewn gwasanaethau bydwreigiaeth. Yn 2015, tynnwyd myfyrwyr bydwreigiaeth yn ôl dros dro o'r gwasanaeth bydwreigiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn pryderon a godwyd gan fudd-ddeiliaid. Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd myfyrwyr bydwreigiaeth i'r gwasanaeth.
Ym Medi 2016 cyfarfu staff uwch o'r Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol a chytuno y dylai myfyrwyr 3edd flwyddyn ddychwelyd i'r man lleoliad. Yn Chwefror 2017, cyfarfu'r grŵp hwn a phenderfynodd y dylai myfyrwyr 2il flwyddyn ddychwelyd. Mae dychweliad y myfyrwyr wedi cael ei gyflawni, ynghyd â rhaglen benodedig o gefnogaeth a gwerthuso'r amgylchedd dysgu yn barhaus. Cytunwyd gennym i gynnal ail-werthusiad ar y cyd o addasrwydd y gwasanaeth fel lleoliad i fyfyrwyr pellach ddychwelyd iddo. Cwblhawyd yr ail-werthusiad hwn ar 13 Gorffennaf 2017. Yn ogystal â thystiolaeth o addasrwydd lleoliad a gedwir gan ein sefydliadau, gwnaethom ymgynghori ag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid yn cynnwys Coleg Brenhinol y Bydwragedd.
Y penderfyniad ar y cyd y daethpwyd iddo oedd y dylai'r drefn weithredu fesul cam i ail-gyflwyno myfyrwyr gael ei chwblhau nawr, gyda myfyrwyr blwyddyn 1af yn dychwelyd i'r man lleoliad. I gyd-fynd â hyn ceir rhaglen bellach o gefnogaeth benodedig i fyfyrwyr a staff y gwasanaeth, ynghyd â gwerthusiad parhaus o amgylchedd dysgu'r lleoliad. Rydym wedi ymrwymo i adolygu'r penderfyniad hwn yn Ionawr 2018.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r myfyrwyr, y staff dysgu a staff y gwasanaeth mamolaeth sydd i gyd wedi gweithio i sicrhau bod cyn lleied o aflonyddu â phosib wedi bod ar brofiad dysgu'r myfyrwyr bydwreigiaeth.
Fiona Giraud
Pennaeth Staff Cysylltiol
Nyrsio a Bydwreigiaeth Merched
Sheila Brown
Bydwraig Arweiniol i Addysg
Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017