Clefyd yr Arennau a beichiogrwydd - pa gefnogaeth sydd ei angen ar ferched?

“Doeddwn i ddim yn gwybod yr hyn nad oeddwn yn ei wybod, oherwydd ni ofynnodd neb imi”

Mae gan ferched lawer iawn o bethau i'w hystyried cyn beichiogi, yn ogystal â chwestiynau sydd angen eu hateb tra byddant yn feichiog.

Mae tua phum mil o ferched o oedran beichiogi yng Nghymru a chyflwr arnynt sy'n effeithio ar eu harennau. Efallai fod ganddyn nhw gwestiynau ychwanegol am effaith beichiogrwydd ar glefyd yr arennau a sut y gallai clefyd yr arennau effeithio ar eu beichiogrwydd.

Helen ei phartner Craig a'i merch Eleri yn gwireddu breuddwyd ar eu gwyliau yn LAHelen ei phartner Craig a'i merch Eleri yn gwireddu breuddwyd ar eu gwyliau yn LAMae Clefyd Polysystig yr Arennau (PKD) ar Helen Williams o Fargam. Daeth yn fam ar ôl triniaeth ffrwythlondeb yn 2004 yn 38 oed.

Dywedodd:  “Fel Nyrs roedd gen i rywfaint o ddealltwriaeth o PKD yn ogystal â rhai camsyniadau.”

Pan oedd Helen yn feichiog, cafodd ei hun yn gyfnewid gwybodaeth rhwng tîm obstetreg y naill ysbyty a Thîm Arennau'r llall.

“Ar y pryd, roeddwn i’n teimlo nad oedd neb yn gwrando arnaf nac yn ystyried fy meddyliau, fy ofnau na fy nymuniadau. Roedd y ddau Feddyg Ymgynghorol yn arbenigwyr yn eu priod feysydd, ond doeddwn i ddim yn hyderus yng ngwybodaeth yr Obstetregydd am y materion unigryw a all godi gyda beichiogrwydd a rhoi genedigaeth a Chlefyd Polysystig yr Arennau.

Yn ddiweddarach, dysgais fwy am fy nghyflwr arennol penodol trwy ymweliadau â'r adran cleifion allanol. Byddwn yn gofyn cwestiynau a byddai'r Meddyg Ymgyngorol Arennol rhagorol yn eu hateb yn drylwyr. Fodd bynnag, ni siaradodd neb â mi erioed a oedd â'r amser i ofyn imi beth oeddwn i'n ei ddeall am PKD a'r goblygiadau o ran dewisiadau ynglŷn ag atal cenhedlu, dewisiadau ynghylch beichiogi, neu effaith bosib beichiogrwydd ar fy PKD a'r naill ar y llall.

O edrych yn ôl, hoffem pe byddem wedi ceisio beichiogi yn gynharach, pan oeddem ein dau yn iau a minnau'n fwy ffit yn gyffredinol.”

Mae profiadau Helen yn dangos mai ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd o faint mae merched fel Helen yn ei wybod am y dewisiadau a allai eu hwynebu, sut maen nhw'n gwneud eu penderfyniadau, a pha wybodaeth a chefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Dyna pam mae'r astudiaeth newydd yma dros Gymru gyfan yn ceisio barn a safbwyntiau merched sydd â chlefyd yr arennau trwy arolwg ar-lein cychwynnol a chyfweliadau dethol i ddilyn. 

Caiff yr wybodaeth a gasglwn ei defnyddio i gynllunio offer a phrosesau newydd ar gyfer 'Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd' (SDM). Bydd hynny'n fodd i weithwyr iechyd proffesiynol a chleifion weithio gyda'i gilydd i wneud penderfyniadau gwybodus am driniaethau yn y dyfodol.  O dan y prosesau newydd, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhannu'r dystiolaeth orau sydd ar gael mewn ffordd hawdd ei deall, a bydd y cleifion yn cael eu hannog i rannu'r hyn sydd bwysicaf iddynt o ran eu blaenoriaethau, eu pryderon, eu ffordd o fyw, eu hamgylchiadau personol, a'u dewisiadau.

Caiff yr astudiaeth ei harwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr dros Gymru Gyfan o Uned Ymchwil Arennau Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Met Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'i hariannu gan Gymdeithas Arennol Prydain a Kidney Care UK.

Dywed Dr Siân Griffin, Neffrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, sy'n arwain y project:

“Rydyn ni eisiau deall yn well y ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â beichiogrwydd o safbwyntiau'r merched, gan gynnwys eu dealltwriaeth a'u pryderon am effaith bosibl beichiogrwydd ar eu hiechyd a chlefyd yr arennau ar eu beichiogrwydd, pryderon a disgwyliadau aelodau eraill o'r teulu, y risg o drosglwyddo cyflwr etifeddol, camesgoriadau, gorbryder ac iselder ysbryd, straen posibl o fewn perthnasoedd, a'r anghenion o ran gofal cymdeithasol”.  

Ychwanegodd Helen:

“Ni allaf bwysleisio pa mor ddefnyddiol fuasai petai rhywun wedi gofyn imi beth oedd fy nealltwriaeth, fy meddyliau a fy mhryderon innau ynghylch y clefyd a'r dewisiadau ynghylch beichiogrwydd ar adeg fy niagnosis arennol. Hyd yn oed pe na bawn i wedi bod yn ystyried cael plant ar y pryd, buaswn yn falch o'r cyfle i drafod yr opsiynau a'r ffeithiau sylfaenol ynghylch sut mae clefyd yr arennau yn effeithio ar feichiogrwydd ac fel arall. Pe buasai gan rywun, boed yn Feddyg neu'n Nyrs Arbenigol yr amser i wrando arnaf, ystyried fy nymuniadau, rhoi gwybod imi pa opsiynau/cyffuriau i'w hosgoi ac ati a dogfennu ein trafodaethau mewn offeryn penderfynu ar y cyd, dyna wych fuasai hynny. Byddai gwneud i ffwrdd â'r baich o orfod ailadrodd yr hanes a phledio'ch achos gyda phob gweithiwr iechyd proffesiynol newydd sy'n credu mai eu ffordd nhw yw'r ffordd orau a'r unig ffordd o wneud rhywbeth.

Dyma pam mae'r astudiaeth hon mor sylfaenol bwysig. Er mwyn cefnogi merched yn iawn rhaid deall, nid yn unig yr hyn y maent yn ei 'wybod' a'i ddeall am eu clefyd a chynllunio teulu, rhaid deall hefyd y cymhlethdodau sy'n sail i'w pryderon a'u penderfyniadau. Bydd dynes â chlefyd yr arennau arni, boed hithau'n feichiog neu'n ystyried beichiogi ai peidio, yn dod i gysylltiad â chymaint o weithwyr proffesiynol gofal iechyd o wahanol arbenigeddau, a phob un o'r rheiny o bosib yn meddwl ei bod hithau wedi cael 'eglurhad o bopeth' ond efallai na ofynnodd neb erioed iddi ynglŷn â'i dealltwriaeth hithau, na gwrando ar ei rhesymau hi dros ddim oll.”

Ychwanegodd Dr Leah Mc Laughlin o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, sy'n cydlynu'r project:

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r timau amlddisgyblaeth gan gynnwys; meddygon, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr, sy'n darparu gofal ac addysg i ferched sydd â chlefyd yr arennau am gynllunio teulu, er mwyn dysgu mwy am sut maen nhw'n cefnogi merched gyda'u penderfyniadau.

Mae gennym ddiddordeb hefyd ym mhrofiadau pobl yn ystod COVID 19 megis; y cyfnod clo, y tarfu a fu ar ofal a chefnogaeth, a dylanwad hynny ar benderfyniadau at y dyfodol ynghylch cael plant."

I rannu'ch ymateb, gweler y cyswllt â'r Arolwg ar y dudalen hon: http://www.kidneyresearchunit.wales/impact-case-studies.htm?id=34

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2020