Llwyddiant Dwbl i nyrsys yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn hynod o falch fod Sefydliad Florence Nightingale wedi dyfarnu dwy o’i ysgoloriaethau i’n nyrsys ni yng Ngogledd Cymru.
Mae Emma Bond, nyrs fasgwlaidd arbenigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn fyfyrwraig ddoethurol o fewn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Bwriad ysgoloriaeth deithio Emma yw gwella’r broses o gymryd penderfyniadau yng nghyswllt cleifion sydd angen llawdriniaeth, gan sicrhau bod cleifion yn wybodus, yn cymryd rhan yn y broses o benderfynu ynglŷn â’u llawdriniaeth ac yn deall y risgiau sy’n gysylltiedig â’r driniaeth.
Bydd y darlithydd mewn Nyrsio Plant, Alison Owen Traynor, yn cymharu gwasanaethau a darpariaeth i rieni ifainc a’u teuluoedd yn y DU ac yn Awstralia. Mae rhai rhieni ifainc yn wynebu cryn sialens wrth i’w plant symud o lencyndod i oedolaeth, a bwriad y daith astudio, sydd i’w hwyluso gan Ysgoloriaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yw gwella’r canlyniadau i rieni ifainc a’u plant o ran iechyd a lles. Bydd yr ysgoloriaethau’n galluogi Emma ac Alison i dreulio amser dramor yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol yn y meysydd arbenigol, a dod â syniadau ac arferion newydd yn ôl i Ogledd Cymru.
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol, mai gwych o beth oedd bod dwy ysgoloriaeth wedi’u dyfarnu i’r Ysgol. Meddai hi, “Mae Sefydliad Florence Nightingale wedi bod yn hael iawn wrth ddyfarnu’r ysgoloriaethau teithio hyn, sy’n cydnabod dawn nyrsio ac yn gallu gwella gofal i gleifion. Bydd yr ysgoloriaethau’n galluogi Emma ac Alison i adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol sy’n lledaenu rhagoriaeth mewn nyrsio, a dymunaf yn dda iddynt gyda’u hastudiaethau.”
Trwy ei Raglen Ysgoloriaethau, mae Sefydliad Florence Nightingale yn cefnogi nyrsys a bydwragedd gan eu galluogi i astudio gartref a thramor, gan hyrwyddo arloesi wrth ymarfer, yn ogystal ag ehangu gwybodaeth a medrau er mwyn ateb anghenion sy’n newid, ac i wella’r gofal a gaiff cleifion.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2015