Llwyddiant myfyrwyr nyrsio: Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg

Llongyfarchiadau i un ar ddeg o fyfyrwyr nyrsio am lwyddo i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Bydd y myfyrwyr yn derbyn eu tystysgrifau mewn seremoni i’w gynnal ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Mercher, 8 Awst 2018.

Mae’r Dystysgrif yn dangos tystiolaeth o sgiliau iaith y myfyrwyr a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl egluro’n effeithiol beth yw eu hanghenion gofal.  Drwy ddod â’r Gymraeg yn elfen allweddol o addysg gofal iechyd mae yn ffordd o baratoi gweithlu’r dyfodol gyda’r wybodaeth, sgiliau a’r agweddau priodol er mwyn darparu ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau dwyieithog. Ceir mwy o wybodaeth am beth yw'r Dystysgrif Sgiliau Iaith ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr canlynol:

Heledd Non Evans - Clod

Aaron Glyn Hughes - Llwyddo

Catrin Elain Jones - Rhagoriaeth

Lliwen Angharad Jones - Llwyddo

Enid Mai - Clod

Emyr Payne - Llwyddo

Caitlin L. Rees - Llwyddo

Heledd Bronwen Roberts - Clod

Gaynor I. Semmens - Llwyddo

Gwennan Williams - Clod

Manon Wyn Williams - Llwyddo

Am fwy o wybodaeth am ddarpariaeth Cymraeg yn yr ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd cysylltwch â Beryl Cooledge, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd: b.cooledge@bangor.ac.uk

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018