Cleifion gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy cyn mynd i weld eu meddyg teulu

Mae pobl gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy ar ôl sylwi ar eu symptomau cyn mynd i weld eu meddyg teulu o'u cymharu â chleifion gyda mathau eraill o ganser, yn ôl ymchwil* a gyhoeddwyd yn yr  International Journal of Cancer, heddiw (dydd Mawrth).

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod angen i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ganolbwyntio ar y canserau hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth am y symptomau a cheisio cael pobl i fynd i weld eu meddyg teulu ynghynt**.

Defnyddiodd ymchwilwyr o Brifysgol Caergrawnt, Prifysgol Durham, Prifysgol Bangor a'r "National Cancer Intelligence Network" ddata o'r "National Audit of Cancer Diagnosis in Primary Care" ynglŷn ag ymweliadau dros 10,000 o gleifion gyda 18 gwahanol fath o ganser â'u meddygon teulu.⁠ ⁠ Edrychodd yr ymchwilwyr ar nifer y dyddiau a fu rhwng yr adeg y sylwodd y cleifion ar y symptomau am y tro cyntaf a'r adeg yr aethent i chwilio am gyngor meddygol - yr enw am y cyfnod hwn yw cyfwng claf.

Yn achos cleifion gyda chanser y geg - a elwir hefyd yn ganser oroffaryngeal - canfu'r astudiaeth bod cleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu ar gyfartaledd**** tua mis ar ôl sylwi bod ganddynt symptom. Ac mae cleifion gyda chanser yr oesoffagws yn disgwyl oddeutu tair wythnos cyn mynd i weld eu meddyg ynglŷn â'u symptomau. Ond mae hynny'n amser hir iawn o gymharu â chleifion gyda chanser y bledren a chanser yr arennau, sy'n mynd i weld y meddyg ddeuddydd neu dridiau ar ôl iddynt sylwi ar symptom am y tro cyntaf *****.

Meddai Dr Georgios Lyratzopoulos, awdur yr astudiaeth a chymrawd ôl-ddoethurol yr NIHR ym Mhrifysgol Caergrawnt: "Mae canser oroffaryngeal a chanser yr oesoffagws yn gymharol gyffredin ond mae'r rhagolygon goroesi yn gymharol wael i gleifion.

"Mae ymchwil blaenorol wedi dangos mai dau o brif symptomau'r canserau hyn - sef cael trafferth llyncu a doluriau yn y geg sy'n gwrthod gwella - yw'r rhai lleiaf adnabyddus am eu cysylltiad â chanser ymysg y cyhoedd.

Meddai'r Athro Greg Rubin, un o awduron yr astudiaeth o Brifysgol Durham ac arweinydd clinigol canser i bartneriaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a "Cancer Research UK":  "Mae ein hymchwil ni yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd am gleifion gan dros fil o feddygon teulu mewn archwiliad gwella ansawdd, rhywbeth na wnaed erioed o'r blaen ar y raddfa hon. Canlyniad yr ymchwil yw gwell dealltwriaeth o'r modd y mae pobl gyda gwahanol fathau o ganser yn ymateb i symptomau ac i ba gyfeiriad y dylid targedu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd."

Meddai'r Athro Jane Wardle, cyfarwyddwr "Cancer Research UK" yn yr "Health Behavioural Centre" yng Ngholeg Prifysgol Llundain:  "Rydym yn gwybod nad yw pawb yn ymwybodol o rai o arwyddion a symptomau cynnar llai cyffredin canser.  Mae'r canfyddiadau hyn yn gam pwysig ymlaen ac maent yn awgrymu bod diffyg gwybodaeth am symptomau yn golygu efallai bod pobl yn oedi cyn mynd i weld y meddyg gyda chanser oroffaryngeal a chanser yr oesoffagws."

Dywedodd yr Athro Richard Neal o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor:

'Mae hwn yn waith pwysig. Mae'n nodi'r mathau o ganser a fyddai'n elwa fwyaf o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth am eu symptomau, a beth i'w wneud os yw rhywun yn sylwi bod ganddynt y symptomau hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y DU gan fod astudiaethau diweddar yn dangos bod pobl yn y gwledydd hyn yn credu bod mwy o bethau yn eu rhwystro rhag mynd i weld eu meddyg teulu gyda symptomau canser posib o gymharu â phobl mewn gwledydd gorllewinol eraill tebyg.'

Meddai Sara Hiom, cyfarwyddwr diagnosis cynnar Cancer Research UK: "Mae'n dda gweld bod cleifion gyda chanser yr arennau a chanser y bledren yn mynd i weld eu meddyg mor gyflym, efallai bod hynny'n digwydd oherwydd bod y symptomau'n fwy amlwg. Ond mae'n rhaid i ni wneud mwy i annog pobl gyda symptomau llai adnabyddus i fynd i weld eu meddyg teulu cyn gynted â phosib.

"Mae rhai symptomau'n fwy amlwg nag eraill, felly'r peth pwysig yw eich bod yn dod i adnabod eich corff eich hun a beth sy'n normal i chi. Pan gaiff canser ei ganfod yn gynnar, mae'r triniaethau'n fwy effeithiol fel arfer ac mae llawer mwy o obaith o guro'r clefyd."

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2014