Argymhellion newydd Sefydliad Iechyd y Byd: Gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd trwy ailddosbarthu tasgau

Bwriad argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd yw mynd i'r afael â phrinder dybryd yn y gweithlu iechyd sy'n ei rwystro rhag cyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm ym maes iechyd. Byddai ailddosbarthu tasgau a chyfrifoldebau’n fwy synhwyrol ymysg carfanau gweithwyr iechyd yn sicrhau bod triniaethau ar gael yn llawer haws ac yn llawer mwy cost effeithiol  - gellid er enghraifft hyfforddi a galluogi gweithwyr iechyd 'lefel ganol' a 'lleyg' i gyflawni tasgau penodol sydd fel arall yn cael eu gwneud gan garfanau sydd wedi cael hyfforddiant hirach (ac weithiau hyfforddiant mwy arbenigol).

Datblygwyd yr argymhellion trwy broses drefnus gan gynnwys adolygiad llawn o’r dystiolaeth oedd ar gael. Cynhaliwyd adolygiad systematig cymhleth o’r dystiolaeth gan dîm rhyngwladol o arbenigwyr, gan gynnwys yr Athro Jane Noyes, arbenigwr mewn cyfuno tystiolaeth o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol.

Yr Athro Jane NoyesYr Athro Jane NoyesMeddai’r Athro Jane Noyes: “roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r tîm rhyngwladol blaenllaw hwn. Buom yn datblygu ffyrdd newydd sbon o drefnu a gwneud synnwyr o dystiolaeth gymhleth a chyflwynwyd y dystiolaeth mewn ffordd y gellid ei throsi’n argymhellion i wella iechyd a lles merched beichiog a phlant trwy’r byd.”

Credir y bydd yr argymhellion hyn yn berthnasol i wneuthurwyr polisi iechyd, rheolwyr a budd-ddeiliaid eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gobaith Sefydliad Iechyd y Byd yw y bydd gwledydd yn eu haddasu a'u gweithredu er mwyn cwrdd ag anghenion lleol. Datblygwyd yr argymhellion trwy broses ffurfiol drefnus gan gynnwys adolygiad trylwyr o'r dystiolaeth sydd ar gael. Disgrifir y broses a'r argymhellion yn y dogfennau cysylltiedig.

Gellir gweld y dogfennau ynhttp://www.optimizemnh.org

Gellir gweld ffilm yn amlinellu’r argymhellion: http://www.youtube.com/watch?v=8UD_h1djjow

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2012