Rhestr Fer Gwobr Student Nursing Times

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod un o'n myfyrwyr bydwreigiaeth, Jonathan Cliffe, wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2015. Mae Jonathan yn un o saith myfyriwr bydwreigiaeth o bob cwr o’r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn.

Eleni, mentrodd dros 400 o fyfyrwyr nyrsio dawnus, darparwyr addysg a mentoriaid ymuno â'r gystadleuaeth. Mae'r gwobrau'n cydnabod myfyrwyr sy'n "mynd yr ail filltir" i wella gwasanaethau a phrofiadau cyd-fyfyrwyr. Mae Jonathan wedi bod yn allweddol wrth roi amlygrwydd addysg bydwreigiaeth o fewn yr ardal a ledled Cymru fel

Cynrychiolydd Myfyrwyr ac fel Sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Bydwreigiaeth Prifysgol Bangor.

Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol, "Rwy'n falch iawn bod cyfraniad rhagorol Jonathan i fywyd myfyrwyr o fewn yr Ysgol wedi cael ei gydnabod fel hyn. Dymunwn yn dda iddo yn y seremoni wobrwyo ym mis Mai".

Mae'r Ysgol hefyd yn hynod o falch bod dau o'r gwasanaethau iechyd sy'n darparu lleoliadau i'n myfyrwyr nyrsio yng Ngogledd Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae Nyrsys Ardal Plas Madoc Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o wyth gwasanaeth neu dîm clinigol sydd ar restr fer gwobr Lleoliad Cymunedol y flwyddyn.

Mae Ward Ceiriog Ysbyty Cymunedol y Waun yn un o wyth lleoliad sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori lleoliad mewn ysbyty.

Aeth yr Athro Rycroft-Malone yn ei blaen i ddweud bod "yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio'n agos i sicrhau fod profiad dysgu a chlinigol ein myfyrwyr o'r radd flaenaf. Mae’n arbennig o wych gweld dau leoliad clinigol sy'n dylanwadu ar ac yn ysbrydoli nyrsys ein dyfodol yn cael cydnabyddiaeth fel hyn". 

Cyhoeddir enillwyr gwobrau'r Student Nursing Times 2015 ar 7 Mai yng Ngwesty’r Hilton Llundain ar Park Lane.

http://studentawards.nursingtimes.net/

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015