Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr

Mae deddfwriaeth gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ffyrdd arloesol o hyrwyddo lles gofalwyr a phobl ag anghenion gofal cymhleth.  Mae hyn yn cynnwys cefnogi perthnasoedd gofalu drwy ddarparu seibiannau byr ystyrlon, ac mae hynny bellach yn flaenoriaeth o ran gofal cymdeithasol ym mhedwar rhanbarth y Deyrnas Unedig. Mae gofalwyr yn cyfeirio'n rheolaidd at seibiannau fel un o dair ffactor a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau a'u helpu i wella eu lles personol drwy ganiatáu iddynt wneud pethau megis cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a meithrin diddordebau a hobïau.  

Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr. 

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ganfod ymchwil sy'n dangos beth yw cyfraniad seibiannau byr at gyflawni'r canlyniadau canlynol i ofalwyr:

  • Iechyd a lles.
  • Cael eu bywyd eu hunain.
  • Cael perthynas gadarnhaol gyda'r person maen nhw'n rhoi cefnogaeth iddo/iddi.
  • Dewisiadau gofalu, gan gynnwys terfynau.
  • Boddhad wrth ofalu.

Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn:

  • Helpu i ganfod bylchau yn y llenyddiaeth ymchwil bresennol.
  • Cefnogi gwaith Grŵp Datblygu Ymarfer ac Ymchwil i Seibiannau Byr y DU, sydd newydd ei sefydlu, gan helpu i lunio gweledigaeth ymchwil y grŵp a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol. 
  • Llywio'r gwaith o weithredu polisïau ac ymarfer yn effeithiol.

Dywedodd Don Williamson, Prif Weithredwr Shared Care Scotland:

"Mae'n hanfodol bwysig wrth symud ymlaen fod gennym ddarlun llawn o statws yr ymchwil i seibiant er mwyn gallu defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael i lywio polisïau ac arferion yn y dyfodol.  Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan fo adnoddau dan gymaint o bwysau a'r galw am seibiannau ar gynnydd. Bydd yr Adolygiad Rhychwantu hwn yn gam sylweddol ymlaen yn hyn o beth gan y bydd yn mynd ati i ganfod astudiaethau ymchwil amrywiol ac yn dod â nhw ynghyd mewn un lle.  O wneud hyn, gallwn hefyd ddechrau nodi bylchau a chynnig strategaethau newydd i annog ymchwil yn y meysydd hyn."

Gwneir y gwaith gan ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Ymchwil Gofal Cymdeithasol, Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, Prifysgol Bangor(d.seddon@bangor.ac.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019