Newid y Polisïau Rhoddi Gwaed

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at newid y polisïau sy'n ymwneud â Rhoddi Gwaed.

Mae ymchwilwyr yr Ysgol Astudiaethau Iechyd yn croesawu'r newidiadau i'r polisi sy'n ymwneud â dewis rhoddwyr gwaed yn y Deyrnas Unedig, o fod yn seiliedig ar rywioldeb i fod yn seiliedig ar ymddygiad rhywiol unigolion.

Cyfrannodd yr Athro Jane Noyes a chydweithwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd at y prosiect (Asesu Risg Unigol (FAIR), a fu'n casglu'r dystiolaeth i newid polisi dewis rhoddwyr gwaed y Deyrnas Unedig.  Cynhaliodd FAIR adolygiad i ddeall yr ymddygiadau rhywiol yr oedd iddynt y risg uchaf o ran caffael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a gludir yn y gwaed (STI). Fe wnaethant hefyd nodi dulliau o ofyn i'r rhoddwyr ynglŷn â'u hymddygiad rhywiol mewn ffordd sy'n niwtral o ran rhyw.

Roedd tîm Prifysgol Bangor yn gyfrifol am gynnal arolwg gyda'r holl staff a'r myfyrwyr, a ddarparodd wybodaeth bwysig yn gefn i ddatblygiad holiadur asesu rhoddi gwaed a oedd yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol lle mae rhoddi gwaed yn y cwestiwn, a'r argymhellion i newid y polisïau sy'n ymwneud â  rhoddi gwaed i ddynion hoyw a deurywiol.

Daeth grŵp llywio FAIR i'r casgliad yn ddiweddar y dylai rhoddwyr y bu ganddynt yr un partner rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf ac nad oes arnynt haint a drosglwyddir yn rhywiol fod yn gymwys i roddi gwaed.

O ganlyniad i'r adolygiad, a chymeradwyaeth y gweinidog, bydd dynion sy'n cael rhyw gyda dynion mewn perthynas hirdymor yn cael rhoddi gwaed yn sgil y newid a gaiff ei weithredu ledled y Deyrnas Unedig o Haf 2021 ymlaen.

Yn sgil y newid hwn bydd y Deyrnas Unedig yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i fabwysiadu dull mwy unigolyddol sy'n seiliedig ar risg o ran y meini prawf sy'n ymwneud â dewis rhoddwyr gwaed.

Dywedodd yr Athro Jane Noyes, a fu'n arwain cyfraniad Bangor:

“Helpodd astudiaeth Prifysgol Bangor sicrhau newid hanfodol bwysig mewn polisi i alluogi dynion hoyw a deurywiol sy'n weithredol yn rhywiol i roddi gwaed yn y Deyrnas Unedig.  Bydd y newid yn golygu bod y system rhoddi gwaed yn decach a bydd hefyd yn sicrhau diogelwch.  Yn sgil canfyddiadau'r ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor gyda'r staff a'r myfyrwyr, caiff newidiadau eu gwneud yn awr i'r holiadur gwirio iechyd rhoddwyr er mwyn cyflwyno cwestiynau i asesu darpar roddwyr yn ôl ymddygiadau y mae iddynt risg uchel. Bydd llawer o sefydliadau ledled y byd yn edrych i weld yr effaith ac mae'n bosib iawn y byddan nhw'n dilyn yn yr un modd.”

Gwnaethpwyd yr argymhellion gan y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Meinweoedd ac Organau Gwaed (SaBTO fel ymateb i'r newidiadau a gynigiwyd gan grŵp llywio FAIR.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Matt Hancock:

“Mae'r newid pwysig hwn i'r drefn rhoddi gwaed yn ddiogel a bydd yn caniatáu i lawer mwy o bobl, a gâi eu hepgor o'r blaen o dan y meini prawf a oedd yn ymwneud â dewis rhoddwyr, fanteisio ar y cyfle i helpu achub bywydau.

Mae'n gam cadarnhaol ac mae'n cydnabod unigolion am y camau y maent yn eu cymryd, yn hytrach na'u dewis rhywiol.

Dywedodd yr Arglwydd Bethell, y Gweinidog Rhoddi Gwaed:

“Trwy archwilio'r dystiolaeth ddiweddaraf sy'n ymwneud â rhoddi gwaed ac ymddygiad rhywiol yn ofalus, rydym wedi gallu cyflwyno polisi mwy cynhwysol i ganiatáu i bobl roddi gwaed yn ddiogel i achub bywydau.

Rwy’n ddiolchgar i aelodau grŵp llywio FAIR, gan gynnwys elusennau LGBT, am y gwaith a wnaethant dros y 18 mis diwethaf i’n galluogi i gyflwyno’r polisi hwn, y bu llawer yn galw amdano. ”

Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2020