A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?

Byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl sy'n marw gael gofal yn y cartref. Mae gweithwyr gofal iechyd yn ceisio galluogi i hynny ddigwydd. Mae project ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Bangor yn archwilio un ffordd o droi hynny'n ffaith i fwy o bobl.

Mae gofal yn y cartref fel arfer yn cael ei ddarparu gan Nyrsys Ardal, yn gweithio gyda nifer o aelodau tîm eraill yn cynnwys ymarferwyr, doctoriaid hosbis a nyrsys, a gwasanaethau Macmillan neu Marie Curie. Caiff aelodau'r teulu eu dysgu sut i ofalu am y sawl sy'n annwyl iddynt, ac fel arfer i alw am Nyrs Ardal os oes symptomau anodd. Wrth i bobl wanhau yn ystod wythnosau neu ddyddiau olaf eu bywyd, nid yw'n bosib iddynt lyncu. Bryd hynny, caiff gyrrwr chwistrell ei osod i roi meddyginiaethau o dan y croen dros 24 awr. Bydd hyn yn lliniaru'r rhan fwyaf o symptomau, ond gall rai symptomau amlygu a fydd angen meddyginiaeth bellach ('trech symptomau'). Yr adeg hynny bydd y teulu fel arfer yn galw'r nyrs ardal a all roi dosiau ychwanegol o feddyginiaeth drwy chwistrelliad. Serch hynny, gall hynny gymryd amser maith, yn aml dros awr. Gall yr aros achosi trallod i'r claf a'r gofalwyr, a fydd yn teimlo'n analluog i helpu. Fel arfer, ni fyddai gofal teuluol yn cynnwys rhoi chwistrelliadau ar gyfer y trech symptomau hyn, er bod hynny'n gyfreithlon ac yn ymarferol.

Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Caerloyw i ymchwilio i p'un ai y dylid mabwysiadu’n ehangach yn y Deyrnas Unedig estyniad ar swyddogaethau gofalwyr lleyg i roi'r chwistrelliadau 'yn ôl yr angen' ai peidio. 

Fel yr eglura'r Athro Clare Wilkinson, sy'n cyd-arwain yr ymchwil o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad

"Mewn rhai gwledydd, fel Awstralia, hyfforddir gofalwyr i roi meddyginiaeth sy'n lliniaru symptomau i'w perthnasau sy'n marw gartref. Rydym yn gweithio gyda thîm o Brisbane, sydd â 30 mlynedd o brofiad o hyn. Ni allwn fod yn sicr y byddai'r dull hwn yn cael ei groesawu yn y Deyrnas Unedig, felly rydym angen ei dreialu. Pan fo ansicrwydd, y ffordd orau i'w ddatrys yw cynnal hap-dreial rheoledig. Mae hwn yn brawf lle bydd hanner y cleifion, ar hap, yn derbyn y 'gofal arferol' a bydd yr hanner arall yn derbyn 'gofal newydd'.

“Gobeithiwn gynnal hap-dreial rheoledig yn cymharu chwistrelliadau a roddir gan ofalwyr i gleifion sy'n marw sy'n derbyn gofal yn y cartref (y gofal newydd) yn erbyn chwistrelliadau a roddir gan weithwyr gofal iechyd (y gofal arferol). Cyn gwneud treial mawr, mae'n arfer da i roi prawf ar y dichonoldeb mewn grŵp llai o gleifion. Bydd gwybodaeth o'r astudiaeth ddichonoldeb hon yn ein helpu ni i ddeall a yw hap-dreial mawr, i roi ateb terfynol, yn bosib."

Croesawyd y newyddion am yr ymchwil newydd gan y Farwnes Ilora Finlay, un o'r prif awdurdodau ar ofal diwedd oes a chadeirydd y Cyngor Cenedlaethol dros Ofal Lliniarol a'r Bwrdd Gweithredu dros Strategaeth Gofal Lliniarol yng Nghymru, a ddywedodd:

"Pan fydd rhywun yn y cartref, mae eu teulu yn cymryd y cyfrifoldeb dros ofal 24/7, ac yn gorfod penderfynu pryd a phwy i alw os bydd angen cymorth. Gall gorfod aros i rywun gyrraedd i roi dos ychwanegol o feddyginiaeth greu trallod mawr. Mae hwn yn broject pwysig iawn i asesu'r buddion ac amlygu unrhyw broblemau a fyddai angen eu datrys er mwyn cyflwyno hyn yn eang.”

Eglurodd Dr Marlise Poolman,  Uwch Ddarlithydd Clinigol a  Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Lliniarol, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n cyd-arwain y project:

"Yn gyntaf, byddwn yn sicrhau bod pawb yn deall ei fod yn gyfreithlon i ofalwyr roi chwistrelliadau sy'n lliniaru symptomau i gleifion sy'n marw cyn belled â'u bod yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny. Mae gan ein partneriaid yn Awstralia becyn addysgol sydd wedi'i hen sefydlu: byddwn yn sicrhau y caiff ei ail-lunio ar gyfer cleifion, gofalwyr a gweithwyr iechyd y Deyrnas Unedig. Byddwn yn cynnal gweithdai i wneud hynny, ac yn penderfynu sut orau i egluro'r astudiaeth i ofalwyr a chleifion.

“Yna byddwn yn gofyn i gleifion a'u gofalwyr p'un ai eu bod yn barod i gael eu dewis 'ar hap' ar gyfer 'gofal arferol' neu 'ofal newydd'. Bydd gofalwyr yn y rhan 'gofal newydd' yn cael eu hyfforddi ar sut i adnabod symptomau, rhoi chwistrelliadau ac yna gweld a ydynt yn gweithio i liniaru’r symptom. Gofynnir i ofalwyr yn y grŵp 'gofal arferol' alw gweithiwr gofal iechyd os oes gan y claf drech symptomau. Gofynnir i ofalwyr yn y ddwy ran gadw dyddiadur o symptomau a thriniaethau. Cânt wahoddiad i siarad am eu canfyddiad o'r astudiaeth a'r profiad o roi chwistrelliadau.

Rydym wedi trafod ein hastudiaeth gyda chleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd. Maent yn ei ffafrio'n fawr ac wedi rhoi eu barn i ni, yn arbennig o ran y pethau y dylem eu mesur. Mae dau aelod o'r tîm astudio yn ofalwyr mewn profedigaeth, ac roedd un ohonynt wedi rhoi chwistrelliadau i'r sawl a oedd yn annwyl iddi. Maent wedi helpu i gynllunio'r astudiaeth a byddant yn cymryd rhan drwy gydol y cyfnod astudio. Os ydy’r gofalwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn dymuno hynny, caiff canlyniadau'r astudiaeth eu hadrodd yn ôl iddynt. Bydd y canlyniadau hefyd yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol a'u trafod mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol."

Dechreuodd yr astudiaeth ym mis Tachwedd 2016, a bydd yn dechrau recriwtio gofalwyr a'u perthnasau yng ngwanwyn 2017. Mae wedi derbyn cymeradwyaeth Pwyllgor Moeseg yr Ysgol ac mae cais ar y gweill am gymeradwyaeth foeseg lawn GIG.  Mae gan yr astudiaeth fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol sefydledig clir.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017