Economegwyr Iechyd o Brifysgol Bangor ymhlith yr ymchwilwyr iechyd gorau yng Nghymru

Mae'r Athro Rhiannon Tudor Edwards a'r Athro Dyfrig Hughes, o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Bangor wedi eu enwi fel dau o'r 15 Uwch Arweinydd Ymchwil a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu cystadleuaeth agored 2018. Daw'r 13 Uwch Arweinydd Ymchwil arall o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Dewiswyd yr arweinwyr ymchwil ar sail ansawdd eu ymchwil o safon ryngwladol, perthnasedd ymchwil i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd, a thystiolaeth o gyfraniad personol i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae Rhiannon a Dyfrig yn gyd-aelodau o Gymdeithas Dysgedig Cymru ac maent yn arwain ffrydiau ymchwil ar Economeg Iechyd y Cyhoedd a Ffarmacoeconomeg yn CHEME. Mae Dyfrig yn arwain ar ymchwil sy'n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel, effeithiol ac yn gost-effeithiol. Mae ei brif feysydd diddordeb yn ymwneud â pholisiau sy'n ymwneud â meddyginiaethau cost uchel, defnyddio ffarmacogeneteg ar gyfer creu meddyginiaethau sy’n bersonol i’r unigolyn, ac asesu cost-effeithiolrwydd meddyginiaethau. Gan ganolbwyntio ar economeg iechyd y cyhoedd ac atal afiechydon, mae Rhiannon a’i chydweithwyr yn CHEME newydd gyhoeddi llyfr gan Wasg Prifysgol Rhydychen ar gymhwyso economeg iechyd i ymarfer ac ymchwil iechyd y cyhoedd. Mae Rhiannon yn fentor ac fel cyd-gyfarwyddwr Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS) mae'n helpu i feithrin gallu eraill mewn Economeg Iechyd ledled Cymru.

Dywedodd Dyfrig bod yr anrhydedd Uwch Arweinwyr Ymchwil: “Wrth gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd, mae'n cynnig cyfle unigryw i gefnogi meysydd pwysig o'n ymchwil, yn ogystal â darparu rhywfaint o sicrwydd i staff ymchwil sydd rhwng contractau.”

Ychwanegodd Rhiannon “Mae'r gwobrau hyn yn cynrychioli ac yn adlewyrchu, ein cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, a gwaith caled ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor.”

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019