Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim

Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol Bangor, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu’r ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar.

Ac yntau’n feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy’n astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, wahoddiad i gyfarfod â’r Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.

Meddai Ephraim:

Dr Ephraim Kisangani yn siarad efo Meghan, Duges Sussex yn Llundain yn ddiweddar.Dr Ephraim Kisangani yn siarad efo Meghan, Duges Sussex yn Llundain yn ddiweddar.“Cefais wahoddiad i’r digwyddiad ac ystyriais os y dyliwn fynd ai peidio. Dim ond deuddydd cyn y digwyddiad y deallais fod y Dduges am fod yno. Roeddwn tamaid yn nerfus o flaen llaw, ond roedd trafod fy ngwaith efo Cadeirydd y Gymdeithas wedi lleddfu fy nerfau. Cefais fy nghyflwyno i’r Dduges ac fe holodd fi am fy ymchwil. Roedd hi’n fy nharo fi fel person darostynedig ac roedd hi’n gwenu ac yn sylwgar. Daeth yn ôl ataf nes ymlaen am sgwrs ddyfnach am y problemau sy’n effeithio merched ar eu mislif mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Uganda.

Dywedodd Ephraim fod y Dduges yn ymwybodol iawn o faterion Affricanaidd ac am y problemau sy’n wynebu meched ar eu misflif yn India.

“Dywedodd y Dduges cymaint oedd y mater yn ei brawychu a sut yr oedd mor bwysig codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn fel y gellir gwneud mwy yn eu cylch.”

Gan esbonio pwnc ei draethawd hir, disgrifiodd Ephraim sut y mae’r nifer fwyaf o ffoaduriaid yn Affrica wedi eu lleoli yn Uganda a sut y mae mislif yn fater iechyd cuddiedig i ferched yno.

Mae ei draethawd hir wedi deillio o’i ddiddordeb ym maes y mislif a materion iechyd merched yn Uganda.

Wrth rhoi sylw ar ei brofiad addysgol yn y Brifysgol, meddai: “Mae’r dysgu a’r cwricwlwm yn hyblyg iawn. Mae hyn yn fy ngalluogi i ddewis pynciau sydd yn ymwneud â phroblemau gofal iechyd yn Uganda. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn yr wyf yn dysgu yn berthnasol pan yr wyf yn dychwelyd i’r wlad.”

Meddai Dr Jaci Huws, goruchwiliwr traethawd hir Ephraim ac uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhygwladoli Ysgol Gofal Iechyd y Brifysgol:

“Mae Ephraim wedi dangos brwdfrydedd ddros ddysgu am raglenni iechyd cynaliadwy ac mae’n angerddol dros iechyd a lles pobl sydd wedi eu dadleoli, yn enwedig rhai sy’n byw mewn llefydd diarffordd ac anghysbell y byd. Rydym yn ofnadwy o falch o’i lwyddiannau.”

Mae’r ymweliad wedi dod â llawer o sylw yn y cyfryngau i waith Ephraim, ac mae wedi derbyn negeseuon gan gyfeillion  a chydweithwyr o amgylch y byd wedi gweld y sylw ar y cyfryngau. 

Ychwanegodd:

“Roedd y Ddugess yn angerddol dros ein gwaith ac roedd yn amlwg ei bod â chonsýrn diffuant dros y merched rydym yn ceisio’u helpu.”

Yn dilyn bod yn feddyg teulu am ddwy flynedd, roedd Ephraim wedi penderfynu fod yr amser yn iawn i ddatblygu ei brofiad ac i ymestyn ei addysg.

Chwaraeodd Ephraim ran yn yr ymgyrch fyd-eang gyntaf ar reoli glanweithdra mislif yn 2014 tra’n fyfyriwr meddygaeth. Mae o a chriw o bobl brofesiynol ifanc yn cyfrannu o’u hincwm misol i ariannu ymweliadau i ardaloedd gwledig sydd heb fynediad at ofal iechyd er mwyn darparu gofal i’r bobl hynny yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell drwy law corff lleol o’r enw Nyalojjie Integrated Foundation (NIF).

Enwebwyd Dr Kisangala am ysgoloriaeth gan Windle Trust International, elusen sy’n hybu addysg ymlith ffoaduriaid a phobl sydd wedi eu heffeithio gan ryfela.

Dyma erthyglau am waith Ephraim: https://www.girlsglobe.org/2014/09/29/the-experience-of-an-inexperienced-man-looking-back-on-the-menstrual-hygiene-day-campaign-2014-2/

https://mhhub.org/blog/putting-the-men-menstrual-health-empathetic-reflections-from-a-son/

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019