Hyfforddiant Nyrsio yng Ngogledd Cymru

Yn dilyn adolygiad o Addysg Gofal Iechyd Anfeddygol yng Nghymru, a phroses dendro ddilynol, mae cais Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor i ddarparu addysg nyrsio i israddedigion yng Ngogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus. 

O ganlyniad i hynny, o fis Medi eleni bydd y rhaglen gradd Baglor mewn Nyrsio ym mhob un o bedwar maes nyrsio - sef Oedolion, Plant, Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl - yn cael ei darparu o Brifysgol Bangor a'i safle cysylltiedig yn Wrecsam, sydd yng Nghanolfan Archimedes, wrth ochr Ysbyty Maelor. 

Meddai Dr Malcolm Godwin, Pennaeth yr  Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd: "Mae hwn yn llwyddiant gwych i Brifysgol Bangor, sydd â thraddodiad maith o gynnig addysg nyrsio ddwyieithog o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Bydd canlyniad yr adolygiad yn galluogi'r ddau bartner i ddal ati i gydweithio i baratoi nyrsys y dyfodol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i roi gofal nyrsio o ansawdd uchel a diwallu anghenion holl ddefnyddwyr y gwasanaeth." 



Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2013