Myfyrwyr nyrsio hael yn lledaenu hwyl yr ŵyl i gleifion ar ward adsefydlu

Myfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn danfon anrhegion Nadolig i gleifion ar wardiau adsefydlu tymor hir, Bedwen ac Onnen. Yn y llun mae Ceri Davies yn danfon anrheg i glaf.Myfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn danfon anrhegion Nadolig i gleifion ar wardiau adsefydlu tymor hir, Bedwen ac Onnen. Yn y llun mae Ceri Davies yn danfon anrheg i glaf.Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn dod â hwyl Nadoligaidd ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae myfyrwyr nyrsio o'r ail flwyddyn, Ceri Davies, Kate Topple a Fern Williams, ynghyd â'u darlithydd Angela Williams wedi llenwi bocsys esgidiau â nwyddau Nadoligaidd i gleifion ar wardiau Bedwen, Onnen ac ENT.

Mae'r bocsys esgidiau yn cynnwys ystod o anrhegion a gymeradwywyd gan reolwyr wardiau yn cynnwys nwyddau ymolchi, llyfrau lliwio i oedolion ac addurniadau Nadolig.

Cawsant eu cyflwyno i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl i Ceri gael ei chyffwrdd gan gleifion oedd heb deulu i ymweld â nhw yn ystod ei hamser ar y ward y Nadolig diwethaf.

Dywedodd Ceri: "Roeddwn ar leoliad yn Ysbyty Maelor y Nadolig diwethaf a gwelais gleifion heb deulu a heb gwmni.

"Roedd mor ofnadwy gweld rhai nad oedd yn cael cerdyn Nadolig hyd yn oed - felly fe benderfynon ni roi cerdyn i bawb ar y ward.

"Fe benderfynon ni fynd â hyn gam ymhellach eleni a gwneud hamper Nadolig fechan iddynt, dim ond ag anrhegion syml fel eu bod yn gwybod ein bod yn meddwl amdanynt.

"Mae'r nyrsys yn gweithio'n galed i wneud i gleifion sydd heb neb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a gobeithio y bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu hyn ymhellach."

Casglwyd rhoddion gan fyfyrwyr yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol a rhoddodd rheolwyr y siop Aldi newydd yn Wrecsam roddion hefyd.

Mae Ceri hefyd wedi dosbarthu 22 o focsys esgidiau plant llawn i loches leol i'r digartref yr wythnos hon.

Dywedodd Angela Williams, darlithydd mewn nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Bangor: "Ein bwriad i ddechrau oedd llenwi 60 o focsys ond fe lwyddon ni i lenwi llawer mwy, dim ond â rhoddion gan fyfyrwyr, ffrindiau a darlithwyr eraill. Mae eu haelioni wedi bod yn hollol anhygoel ac ni allwn ddiolch digon iddynt.

Myfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn danfon anrhegion Nadolig i gleifion ar wardiau adsefydlu tymor hir, Bedwen ac Onnen. Yn y llun mae Fern Williams, y Darlithydd Angela Williams, Ceri Davies a Kate Topple.Myfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn danfon anrhegion Nadolig i gleifion ar wardiau adsefydlu tymor hir, Bedwen ac Onnen. Yn y llun mae Fern Williams, y Darlithydd Angela Williams, Ceri Davies a Kate Topple."Yna cawsom y gefnogaeth ychwanegol gan Aldi, sydd wedi gwthio ein rhifau o 60 o focsys i 122."

"Roedd ar y myfyrwyr eisiau gwneud gwahaniaeth i gleifion, sy'n hollol wych."

Yn ôl Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r ymdrech y mae'r merched wedi'i wneud i rannu newyddion da i'n cleifion y Nadolig hwn yn hollol ardderchog, ac rwyf yn eu canmol am y gofal a thosturi eithriadol y maen nhw wedi'i ddangos.

"Mynd y filltir ychwanegol yma yw beth mae nyrsio'n ei olygu. Rwy'n siŵr y cânt yrfa hir a llwyddiannus mewn nyrsio os byddant yn dal i ofalu am gleifion fel hyn."

Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor gampws ym Mangor a Wrecsam, ac mae'n cynnwys rhanbarth cyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd yr adran ei gosod yn drydydd yn y Deyrnas Unedig gyfan yn ôl y Times Good University Guide 2017, ac roedd ganddi record cyflogi o 100 y cant i raddedigion 2015.

Yn ogystal â chyrsiau Nyrsio, Bydwreigiaeth a Radiograffi, mae'r Ysgol wedi lansio gradd arloesol BSc Trawsnewid Gofal ar gyfer 2017, fydd yn apelio at rai sydd â diddordeb mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn ymwneud ag iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2016