Pa wahaniaeth y mae seibiant yn ei wneud: gweledigaeth ar gyfer dyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru

Datblygwyd y cynllun newydd hwn gan Diane Seddon sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ynghyd â chydweithwyr o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar raglen lwyddiannus o ymchwil a gynhaliwyd ym Mangor ynglŷn â gofalwyr, ac ar drafodaethau â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru a rhanbarthau eraill y DU. Bydd yn gymorth i lunio camau nesaf Llywodraeth Cymru wrth weithredu eu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru.

Mae gofalwyr di-dâl ers amser maith wedi disgrifio pa mor anodd yw hi i gael seibiant priodol gyda neu heb y person maen nhw'n gofalu amdano. Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar iechyd emosiynol, corfforol a meddyliol gofalwyr di-dâl. Mae'r pandemig wedi cynyddu’r pwysau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl, gan wneud seibiannau byr yn bwysicach nag erioed.

Dywedodd Diane, sy'n aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr (Llywodraeth Cymru) ac o’r Grŵp Datblygu Ymarfer ac Ymchwil i Seibiannau Byr (Y Deyrnas Unedig): “Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn i wella seibiannau i ofalwyr di-dâl a’u gwneud yn fwy amrywiol. Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer seibiannau byr pwrpasol. Mae'n amlinellu’r egwyddorion allweddol fydd yn sail i’r dewisiadau o ran seibiannau byr yn y dyfodol a sut y gallent edrych yn ymarferol. Ochr yn ochr â hyn, mae'r adroddiad yn galw am gymryd pedwar cam allweddol:

  • Datblygu Datganiadau Seibiannau Byr Cenedlaethol a Rhanbarthol
  • Creu Hwb Gwybodaeth ac Arweiniad Cenedlaethol ar gyfer Gwyliau Byr
  • Menter Cyfrifoldeb Genedlaethol i Gymru
  • Cronfa Seibiannau Byr Cenedlaethol.”

Meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Bu llawer o ofalwyr di-dâl yn gofalu trwy gydol y pandemig heb unrhyw gyfleoedd i gymryd seibiant o’u swyddogaeth ofalu. Wrth i gyfyngiadau ddechrau lliniaru bydd angen cefnogaeth ar lawer i gael seibiant ac mae'n bwysig ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i roi’r seibiannau hynny i ofalwyr di-dâl sy'n diwallu eu hanghenion unigol orauByddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr i ganfod cyfleoedd i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad ar fyrder.”

Darllenwch yr adroddiad:

https://carers.org/downloads/wales-pdfs/carers-trust-road-to-respite-report.pdf

I wybod mwy am y gwaith ymchwil ac addysgu sy’n mynd rhagddo ynglŷn â heneiddio a dementia ym Mhrifysgol Bangor, ewch i:

http://dsdc.bangor.ac.uk/index.php.cy

I wybod mwy am Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru, ewch i:

https://www.cadr.cymru/cy/

I wybod mwy am Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ewch i:

https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales-welsh

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2021