Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ

Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.

Canser yr Ofarïau

Yn y papur ar y clawr blaen (BMJ 2015; 351:h4443: Cyhoeddwyd 01 Medi 2015), y mae'r  Athro Richard Neal o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru  yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn gydawdur iddo, cafwyd adolygiad clinigol o'r sialensiau y mae meddygon teulu'n ei wynebu wrth wneud diagnosis o ganser yr ofarïau.  Canser yr ofarïau yw'r seithfed math mwyaf cyffredin o ganser ymysg merched ledled y byd ac mae'r papur yn crynhoi'r symptomau, profion diagnostig, ffactorau risg a grwpiau sydd mewn perygl uchel o gael canser yr ofarïau.

Mae llawer o'r symptomau a welir yn rhai sy'n gyffredin i ystod o gyflyrau eraill ac felly mae gwneud diagnosis cywir yn anodd i feddygon.  Er y canfuwyd 239,000 o achosion newydd ledled y byd yn 2012, dim ond unwaith bob 3-5 mlynedd y mae meddyg teulu ym Mhrydain yn debygol o weld dynes yn dioddef o ganser yr ofarïau.

Mae'r International Cancer Benchmarking Partnership wedi tynnu sylw at y gyfradd oroesi isel ym Mhrydain ac mae hynny wedi'i briodoli'n rhannol i ddiagnosis hwyr.  Mae'r erthygl yn crynhoi'r symptomau a welir mewn cleifion, profion diagnostig, ffactorau risg a grwpiau sy'n wynebu'r risg fwyaf o ran canser yr ofarïau, ac mae wedi'i hanelu at feddygon teulu a meddygon mewn ysbytai sy'n arbenigo mewn meysydd eraill.

Ail-werthuso treial nodedig ar gyffur at iselder

Mae Dr Joanna Le Noury a'r Athro David Healy o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd wedi ail-werthuso treial nodedig ar gyffur at iselder (Astudiaeth 329). Roedd llawer yn credu bod diffygion yn y gwerthusiad gwreiddiol.

Roeddent yn aelodau o dîm rhyngwladol o ymchwilwyr a fu'n ail-ddadansoddi data'n ymwneud ag effeithiolrwydd cyffur sydd wedi cael ei ddefnyddio i drin iselder difrifol mewn pobl ifanc yn eu harddegau.  Mae canlyniadau'r grŵp wedi cael eu lledaenu'n helaeth yn America, Canada, Ffrainc a Phrydain.

Yn ôl y papur ymchwil yn y BMJ, (BMJ 2015; 351:h4320) roedd y canlyniadau'n croes-ddweud darganfyddiadau'r ymchwil wreiddiol a nododd bod paroxetine yn driniaeth effeithiol a diogel i blant a phobl ifanc yn dioddef o iselder difrifol.

Fe wnaeth y tîm Restoring Invisible and Abandoned Trials (RIAT) ddefnyddio dogfennau o'r treial, a oedd wedi bod yn gyfrinachol o'r blaen, i ail-ddadansoddi’r data gwreiddiol a gwelsant nad oedd naill ai Paroxetine neu ddos uchel o Imipramine yn fwy effeithiol na phlasebo wrth drin iselder difrifol mewn rhai'n eu harddegau.  

Er bod ychydig o feddygon yn rhoi Paroxetine (a werthir fel Seroxat ym Mhrydain a Paxil yn yr Unol Daleithiau) i gleifion ar hyn o bryd, mae'r ail-werthuso hwn wedi dangos nad yw'r cyffur mor effeithlon ag yr honnwyd yn flaenorol. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015