Buddsoddi yn y gweithlu gwasanaethau iechyd i bobl hŷn - dechrau astudiaeth ymchwil bwysig
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn arwain ar astudiaeth ymchwil bwysig a gyllidir gan Raglen Cyflenwi Gwasanaethau'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd. Mae'r project hwn yn ymchwilio i ba ymyriadau datblygu gweithlu sy'n fwy tebygol o weithio i sicrhau gweithlu cefnogi gwybodus a medrus i bobl hyn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r nifer cynyddol o bobl hyn ym mhoblogaeth y DU sydd angen gofal yn golygu y bydd datblygu gweithlu cefnogi gofal addas yn parhau i fod yn flaenoriaeth hirdymor i reolwyr GIG a sefydliadau eraill sy'n darparu gofal.
Amcan y project hwn yw cyflwyno cyfres o welliannau i gynllunio a gweithredu ymyriadau i weithwyr cefnogi sy'n darparu gofal i bobl hyn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yr astudiaeth yn defnyddio methodoleg adolygu realaeth systematig, ffordd newydd o syntheseiddio tystiolaeth i fod yn sail wybodaeth i bolisi ac ymarfer trwy archwilio beth sy'n gweithio mewn ymyriadau cymhleth. Daw'r astudiaeth i ben yn 2015.
Mae'r tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton, yn grwp aml-ddisgyblaethol gyda phrofiad o ymchwil sy'n canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau cyhoeddus, a'r fethodoleg adolygu realaeth. Y cydymchwilwyr yw yr Athro Brendan McCormack, Prifysgol Ulster, yr Athro Sandra Nutley, Prifysgol St Andrews, a Dr Diane Seddon, Prifysgol Bangor.
Mae mwy o fanylion am yr astudiaeth i’w chael yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lynne Williams (rheolwr project) ar 01248 383170 neu anfonwch e-bost at hsse11@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013