Adroddiad Llywodraeth Cymru'n tynnu sylw at bwysigrwydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd Bangor

Yn yr adroddiad diweddar "Gwyddoniaeth i Gymru 2015-16", mae'r adroddiad blynyddol ar strategaeth gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru'n disgrifio lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol (BIHMR) newydd ym Mangor yn Chwefror fel un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Yn yr adroddiad, dywed y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol y bydd y sefydliad yn rhan o ddarpariaeth ymchwil gadarn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhagoriaeth bresennol mewn meysydd fel dementia, diagnosteg canser ac adsefydlu cleifion, a defnyddio dulliau newydd i wneud ymchwil o'r ansawdd uchaf."

 Bydd ymchwil yn gysylltiedig â'r sefydliad yn mynd o'r fainc labordy at welyau cleifion a thu hwnt ac meddai'r Athro Clare Wilkinson, Arweinydd BIHMR, "Rydym wrth ein bodd i weld y sefydliad yn cael ei nodi yn adroddiad y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol.  Mae hyn yn dangos cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o swyddogaeth Bangor ac yn dangos ein bod mewn safle da i chwarae rhan flaenllaw am flynyddoedd i ddod. Roeddem yn arbennig o falch bod themâu ein hymchwil yn gydnaws â pholisïau iechyd Llywodraeth Cymru.”

 Cafodd cryfder ymchwil Bangor ar draws nifer o themâu gofal iechyd a meddygol ei gydnabod yn ddiweddar yn Ymarfer Asesu Ymchwil y DU lle cafodd yr Ysgol ei gosod yn uchel drwodd a thro, ac yn arbennig am ansawdd ei chynnyrch ymchwil.  Crynhowyd y sefyllfa bresennol gan Yr Athro Jo Ryecroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, "Mae rhagoriaeth ymchwil Prifysgol Bangor ym maes iechyd a meddygaeth wedi cael ei chydnabod yn briodol iawn yn adroddiad blynyddol y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol. 

Mae'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd ym Mangor yn rhoi cyfle i amlygu ymchwil ym maes iechyd a'i hyrwyddo yn y rhanbarth ac ymhell tu hwnt i hynny.  Mae ein hymchwilwyr, mewn cydweithrediad â'r bwrdd iechyd lleol, a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynhyrchu tystiolaeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles cleifion a'r cyhoedd."

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2016