Mae traean o bobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis

Mae mwy na thraean o bobl yng Nghymru (34 y cant) yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis o gyflyrau iechyd, er mai dim ond 14 y cant sy'n gwneud apwyntiad gofal iechyd ar-lein.

Daw'r canfyddiadau hyn o arolwg newydd - Iechyd y Boblogaeth Mewn Oes Ddigidol - gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, sy'n trafod sut y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi a monitro eu hiechyd.

Mae dau o bob tri o bobl (66 y cant) yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eu hiechyd drwy weithredoedd gwahanol, gan gynnwys dod o hyd i wybodaeth am iechyd cyffredinol neu wasanaethau iechyd, rheoli cyflyrau iechyd hirdymor a meddyginiaethau.

Mae mwy nag un o bob tri o bobl (34 y cant) yn defnyddio technoleg ddigidol i fonitro eu hiechyd, gan gynnwys cyfrif camau, lefelau ffitrwydd, cymeriant bwyd – ond ceir gwahaniaethau amlwg ar draws grwpiau cymdeithasol. 

Mae 84 y cant o bobl yn y grŵp lleiaf difreintiedig yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eu hiechyd, ond dim ond 51 y cant sy'n gwneud hyn yn y grŵp mwyaf difreintiedig.

Mae'r canfyddiadau'n amlygu ystyriaethau pwysig ar gyfer systemau iechyd sy'n ceisio harneisio'r oes ddigidol hon er mwyn sicrhau nad yw'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf yn cael eu gadael ar ôl.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'n wych gweld bod pobl yng Nghymru yn croesawu potensial technoleg i gefnogi eu hiechyd, ac er bod hyn yn fwy cyffredin ymhlith y grwpiau oedran iau, mae poblogaethau hŷn yn weithredol ar-lein hefyd.  

“Mae angen i ni fanteisio ar y diddordeb hwn, i gynnwys defnyddwyr wrth ddatblygu technoleg iechyd ddigidol a deall beth sy'n gweithio i wella iechyd a llesiant. 

“Mae angen i ni hefyd sicrhau bod gan bawb y potensial i gael budd o hyn. Ni ddylai ffocws ar ddigidol atgyfnerthu anghydraddoldebau ac annhegwch sylfaenol ym maes iechyd, i sicrhau na chaiff y rhai sydd â'r anghenion mwyaf eu gadael ar ôl.”  

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaeth yn y defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer iechyd yn dibynnu ar iechyd sylfaenol.

Er enghraifft, mae 34 y cant o bobl heb unrhyw ymddygiad sy'n niweidio iechyd – yn benodol bod yn smygwr ar hyn o bryd, goryfed mewn pyliau yn rheolaidd neu anweithgarwch corfforol – yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eu hiechyd. Mae hyn yn disgyn i bron hanner y nifer hwnnw (19 y cant) ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan mewn dau neu dri ymddygiad sy'n niweidio iechyd.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mae bron dwywaith cymaint o fenywod (39 y cant) na dynion (20 y cant o ddynion) yn defnyddio technoleg ddigidol i fonitro eu hiechyd
  • Mae 10 y cant o bobl yn defnyddio technoleg ddigidol er mwyn dod o hyd i gymorth emosiynol ar-lein, ac roedd hyn yn uwch ymhlith y rhai â llesiant meddyliol isel
  • Mae 16 y cant yn defnyddio technoleg ddigidol i reoli cyflwr iechyd hirdymor

Meddai'r cyd-awdur Dr Catherine Sharp, Swyddog Ymchwil, Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Bangor:

“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod tua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru eisoes yn defnyddio dyfeisiau digidol i fonitro gweithgareddau fel cyfrif camau a ffitrwydd. Mae angen i ni adeiladu ar y buddsoddiadau mae pobl eisoes yn eu gwneud er mwyn gwella eu hiechyd.

“Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd sicrhau bod cyfleoedd technolegol ar gyfer gwella iechyd o fudd i iechyd pawb yng Nghymru ac nad yw'n ychwanegu at y gwahaniaeth sylweddol sydd eisoes yn bodoli rhwng iechyd y bobl gyfoethocaf a'r tlotaf.”

Cafodd yr arolwg cenedlaethol gynrychioliadol ei weinyddu drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb ag 1,240 o unigolion 16 oed a hŷn, ac sy'n byw yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2019