Ni ddylai newid hinsawdd effeithio ar ddileu malaria i bob pwrpas

Mae economegwyr iechyd wedi cael peth newyddion da wrth wynebu newid hinsawdd. Mae astudiaeth i economeg iechyd yn ymwneud â threchu malaria mewn gwledydd lle mae'r haint bron wedi'i ddileu yn dangos na fydd newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith â hynny ar y broses ac na ddylai atal sefydliadau iechyd rhag parhau i gryfhau eu dulliau dileu presennol.

Lluniodd yr ymchwilwyr Paul Parham a Dyfrig Hughes y papur ymchwil cyntaf ar economeg iechyd i gwestiynau effeithiau posibl newid hinsawdd ar gost-effeithiolrwydd ymladd afiechydon a gludir gan fosgitos mewn rhai gwledydd yn Affrica lle mae'r afiechyd bron â chael ei ddileu  (Climate influences on the cost-effectiveness of vector-based interventions against malaria in elimination scenarios, Paul E Parham Dyfrig A Hughes Philosophical Transactions of the Royal Society B 16.2.15). Darganfu eu dadansoddiad o ddulliau presennol o chwistrellu rhag yr afiechyd mewn tai, a defnyddio rhwydi mosgitos arbennig, y byddai effeithiau newid hinsawdd ar ddulliau presennol a ddefnyddir rhag mosgitos yn debygol o fod yn ddibwys iawn.

Meddai Dr Paul Parham, awdur a chyd-olygydd rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn  Philosophical Transactions of the Royal Society B, sy'n cynnwys y gwaith, a chyn aelod o Ganolfan Prifysgol Bangor ar Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau: 

"O ystyried y sialensiau niferus y mae newid hinsawdd yn ei achosi i rai o wledydd tlotaf y byd, a'r sialensiau iechyd a wynebir eisoes gan wledydd y mae afiechydon a gludir gan fectorau yn effeithio arnynt ar hyn o bryd, roedd gennym ddiddordeb gweld a allai economeg iechyd gynnig peth arweiniad ar gyfer cynllunio at y dyfodol. 

Mae'r papur hwn yn gam cyntaf i roi peth tystiolaeth i rai sydd â'r dasg o ddatblygu polisïau iechyd mewn rhai gwledydd penodol er mwyn iddynt fedru cynllunio ar ei sail.  Dylai ein canlyniadau o'r senarios a ystyriwyd roi hyder i wneuthurwyr polisi barhau â'r gwaith da sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, gan fod ein modelau'n awgrymu y dylai defnyddio'r un camau gweithredu ar raddfa ehangach arwain at ddileu'r afiechyd."

Meddai'r Athro Dyfrig Hughes, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau:  

"O ystyried bod malaria ac afiechydon eraill a gaiff eu cario gan fectorau yn achosi miliwn o farwolaethau'n barod, gyda miliwn pellach yn mynd yn wael oherwydd eu heffeithiau, mae'n hanfodol bod economegwyr iechyd yn darparu gwybodaeth fel y gall asiantaethau iechyd wybod sut oriau i ymateb i newidiadau mewn hinsawdd ac amgylchiadau.

Fe wnaethom edrych ar rai paramedrau gan ddod i'r casgliad na fyddai'r newid yn ddigonol i alw am symud oddi wrth ddulliau presennol o leihau cyswllt rhwng mosgitos a phobl er mwyn dileu'r salwch."
 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015