CYNHADLEDD MYFYRWYR YMCHWIL ÔL-RADDEDIG 2012 yn y Ganolfan Rheoli 8fed Hydref 2012 am 09:45

Arloesi a chreadigrwydd mewn ymchwil iechyd
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnal cynhadledd ar 8 Hydref 2012 i arddangos ymchwil ein myfyrwyr ôl-raddedig.
Thema ein cynhadledd yw ‘arloesi a chreadigrwydd mewn ymchwil iechyd’. Mae’r thema hon yn cydnabod yr heriau sydd yn ein hwynebu wrth wneud ymchwil ac wrth
ddatblygu dealltwriaeth newydd ym maes ymarfer clinigol a chyflwyno a threfnu gwasanaethau iechyd. Yn aml, wynebu’r heriau hyn yw’r cam cyntaf yn y broses o ddatblygu
cyfraniadau gwreiddiol at wybodaeth neu fethodoleg newydd sy’n nodweddu ymchwil ôl-raddedig. Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rannu eu profiadau a’u dysgu.
Cânt hefyd gyfle i gael adborth gan eu cymheiriaid a chan staff ar gyfathrebu ymchwil fel rhan o ddatblygiad eu sgiliau trosglwyddadwy.
Cymryd rhan yn y gynhadledd
Anogir pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd i ddod i’r gynhadledd ac i gyflwyno crynodeb. Bydd croeso i gydweithwyr o’r GIG ac o ysgolion
eraill Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad ddod i’r gynhadledd hefyd. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfuniad o bapurau a phosteri, a chânt eu dewis ar sail eu hansawdd,
amrywiaeth y pynciau ac i sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o ymchwil a wneir gan fyfyrwyr yr ysgol.
Rhaglen y gynhadledd
09.45-10.00 Croeso a phrif anerchiad byr
“What counts as new knowledge in postgraduate research?” (yr Athro Jo Rycroft Malone)
10.00-11.20 - Papurau (4 papur, chwarter awr o hyd yr un gyda phum munud i gwestiynau)
11.20-11.40 - Coffi a phosteri
11.40-13.00 -Papurau (4 papur, chwarter awr o hyd yr un gyda phum munud i gwestiynau)
Cyflwyno crynodebau
Dylid cyflwyno crynodebau sy’n adlewyrchu’r thema ‘arloesi a chreadigrwydd mewn ymchwil iechyd’ erbyn 14 Medi. Ni ddylai crynodebau gynnwys mwy na 250 o eiriau. Gallwch
ddefnyddio’r fformat traddodiadol yn eich crynodeb (cefndir, amcanion, dulliau, canfyddiadau, casgliad) os dymunwch ond mae croeso i chi arbrofi gyda fformat arall os bydd
hynny’n caniatáu i chi fod yn arloesol a chreadigol. Dylech anfon eich crynodebau at Sue Metcalfe (hss01d@bangor.ac.uk) erbyn y dyddiad cau.
At ddibenion arlwyo, rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu dod i’r gynhadledd ac am unrhyw anghenion dietegol erbyn 27 Medi.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Chris Burton, c.burton@bangor.ac.uk 01248 382 556

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012