Dweud eich dweud, a helpu i ffurfio degawd nesaf iechyd a llesiant yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eisiau clywed eich barn am yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i helpu pobl i osgoi salwch corfforol a meddyliol. Gwneir y gwaith hyn ar y cyd efo Prifysgol Bangor.

Mae pawb yng Nghymru’n cael eu hannog i ymweld â www.staywellinwales.com i ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw, eu ffrindiau a’u cymunedau, a’r hyn fydd, yn eu barn nhw, yn helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a hwy.

Bydd canlyniadau’r arolwg byr ar-lein yn helpu ICC i fynd i’r afael â materion fel smygu, brechlynnau, gordewdra, defnyddio cyffuriau ac alcohol yn ogystal â llawer o faterion iechyd eraill dros y degawd nesaf.

Mae Dr Catherine Sharp yn Swyddog Ymchwil gyda Hot House, yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae hwn yn project ar y cyd rhwng ICC ac academyddion er mwyn darparu adnodd academaidd cymhwysol sy’n ystwyth ac yn effeithiol, er mwyn cynnal ymchwil a chefnogaeth gwerthuso sydyn i ICC a’r GIG yn ehangach.

Meddai Dr Sharp:

“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i Brifysgol Bangor gydweithio gyda ICC i gynorthwyo gyda dylunio a darparu arolwg cenedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r canlyniadau yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’n gyfle gwych i bobl helpu i lunio ymagwedd a gaiff ei rhannu er mwyn atal salwch a hybu iechyd corfforol a meddyliol gwell yng Nghymru.

“Mae sicrhau bod Cymru’n iachach, yn hapusach ac yn decach ond yn bosib trwy weithio gyda’n holl gymunedau. O ganlyniad, Cymru yw un o wledydd cynta'r byd i ofyn i’w holl drigolion lywio cyfeiriad eu sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol.

“Gallwch ddweud eich dweud nawr ac annog unrhyw un arall yr ydych yn ei adnabod sydd yn 16 oed ac yn hŷn i ddweud eu dweud hefyd.”

Bydd cynllun 10 mlynedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi blaenoriaethau hyd at 2030 ynghylch sut fydd y sefydliad yn cefnogi pobl a chymunedau i amddiffyn a gwella eu hiechyd a’u llesiant.

Mae’r arolwg ar gael ar-lein o 25 Medi i 22 Hydref 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017