12 Mai 2014 - DIWRNOD RHYNGWLADOL NYRSYS

Bore Coffi a Stondin lyfrau ail-law
Dydd Llun, Mai y 12, 2014 am 10.30 yb- Cyntedd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Fron Heulog
Elw tuag at Prosiect Quthing
Croeso i bawb!

Seminar: Hyrwyddo Iechyd Mamau yn Lesotho

Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys, mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn trefnu seminar amser cinio i fyfyrwyr a chydweithwyr gael gwybod mwy am ein cyfraniad i brojectau i wella gofal iechyd yn Lesotho.


Siaradwr: Mary Longworth, Cyfarwyddwr Addysg Bydwreigaeth/ Prif Fydwraig Addysg

Dydd Llun, Mai y 12, 2014, 12:30—13:30, Ystafell 14, Fron Heulog
 
Caiff y seminar ei fideo-gynadledda i gampws Archimedes y Brifysgol yn Wrecsam (Ystafell 14)

Mae croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff ddod i'r achlysur.  Mae croeso i chi ddod â’ch cinio gyda chi.  

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014