Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion ar gyfer ysgol feddygol yn y Gogledd

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi sefydlu grŵp i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu ysgol feddygol yn y Gogledd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu £7m y flwyddyn i ariannu hyfforddiant meddygol i israddedigion yn y Gogledd ac mae nawr am ystyried cynnig gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer ysgol feddygol newydd.

(Llun llyfrgell)(Llun llyfrgell)Dechreuodd 19 o fyfyrwyr ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, ac mae 18 o fyfyrwyr yn bwriadu dechrau astudio o dan Raglen C21 yn 2020/21.

Dywedodd Mr Gething: “Rwyf wedi ymrwymo i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd i helpu i recriwtio meddygon yn y rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cyllid i alluogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddilyn rhan o’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.

Hoffwn ddarganfod a yw’r cynnig hwn gan Brifysgol Bangor a’r bwrdd iechyd yn ymarferol ac yn gyraeddadwy, ac ai dyma’r cam nesaf yn y broses o ehangu hyfforddiant meddygol yn y Gogledd.”

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru yn archwilio’r cynigion newydd ac yn adrodd yn ôl i’r Gweinidog erbyn haf 2021 gydag argymhellion.

Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein gweledigaeth uchelgeisiol, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, a fyddai’n galluogi’r Gogledd i hyfforddi a chynnal ei weithlu meddygol ei hun at y dyfodol. Mae’r syniad hwn o bwys mawr i mi a’m cydweithwyr clinigol am fod ganddo botensial mawr i fod o fudd i’r gwasanaeth iechyd ac, yn bwysicaf oll, ein cleifion.

“Mae cynnull grŵp o randdeiliaid i gydweithio i archwilio a datblygu ein cynigion yn gam pwysig ymlaen tuag at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer ysgol feddygol yn y Gogledd.

“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr a phartneriaid sydd wedi gweithio mor galed i ddatblygu’r cynigion a’r achos busnes amlinellol i gyrraedd y cam hwn. Rwyf i a’m cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen i fynd ati i fwrw’r gwaith hwn yn ei flaen.”

(Llun llyfrgell)(Llun llyfrgell)Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies: “A ninnau’n Brifysgol ar gyfer y rhanbarth sy’n cael ei harwain gan ymchwil, mae hi wedi bod yn uchelgais gennym ers tro i ddod ag addysg feddygol i’r Gogledd. Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd wedi’n galluogi i gynnal rhaglen feddygaeth lawn yn y Gogledd am y tro cyntaf. Mae’n hanfodol ein bod yn tyfu’r gallu hwn ac yn datblygu ysgol ryngbroffesiynol wirioneddol a fydd yn cyflawni ar gyfer y rhanbarth a’r economi ranbarthol. Croesawn y cam nesaf hwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru / y Gweinidog heddiw ac edrychwn ymlaen i weithio gyda’n partneriaid a Llywodraeth Cymru i ymchwilio’n llawn i hyn.”

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2020