Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019.

Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.

Mae'r canllaw yn ategu’r wybodaeth sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda'u penderfyniad, gan gynnwys dyfarnu Gwobr Aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y DU i’r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol hefyd yn wythfed o blith prifysgolion traddodiadol y DU sy'n cynnig ystod eang o bynciau, yn ôl ystadegau a ddaw o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (Awst 2017).

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: "Mae'r Brifysgol yn parhau i ddarparu addysg ragorol i’n myfyrwyr, ac roeddem wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, a ddyfarnod yr unig safon Aur yng Nghymru i’r Brifysgol. Rydym bob amser yn argymell bod darpar fyfyrwyr yn ystyried pob agwedd ar eu profiad yn y brifysgol, ac mae ffynonellau megis tablau cynghrair, arolygon a gwobrau yn ychwanegu’n deilwng at yr argraffiadau gwerthfawr a geir wrth fynychu Diwrnod Agored Prifysgol Bangor.

"Hoffwn longyfarch ein holl staff am eu gwaith caled wrth gyflwyno profiadau rhagorol i fyfyrwyr."

Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol Hotcourses Group, sy’n cynnal y canllaw a’r tablau cynghrair: "Mae'r canllaw yn elfen hanfodol o’r ystod eang o wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ar gael drwy Hotcourses a’r cwmni rhiant IDP. Mae’n ychwanegiad gwerthfawr i’r rhaglenni cwnsela a mewnwelediad ac i’r miloedd o adolygiadau gan fyfyrwyr ar ein safle, sydd, gyda’i gilydd yn cynnig i ddarpar fyfyrwyr yr adnodd mwyaf, y prysuraf ac sydd heb ei debyg yn y byd o ran gwybodaeth am sefydliadau addysg uwch ym Mhrydain a’r cyrsiau a gaiff eu cynnig ganddynt."

 Y chwe phwnc sydd yn ymddangos yn y tablau 10 Uchaf ymysg prifysgolion y DU yw:

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018