Lefelau goroesi canser isel yn y Deyrnas Gyfunol yn gysylltiedig ag oedi wrth gyfeirio cleifion am brofion
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru yn Wrecsam newydd gwblhau eu rhan mewn astudiaeth fanwl newydd ar ganser a allai ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Bu i ganlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), gyda'r Athro Richard Neal yn arwain cangen Cymru, ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Dangosodd yr arolwg hefyd bod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion gyda symptomau canser posibl pan maent yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r hyn a welir yn y gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth (Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden).
Partneriaeth fyd-eang unigryw ac arloesol o glinigwyr, academyddion a gwneuthurwyr polisi yw'r ICBP, a gyllidir gan bartneriaid yn cynnwys yr Adran Iechyd, y Northern Ireland Cancer Registry, Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, Gogledd Iwerddon, Rhwydwaith Canser De Cymru, Tenovus a Llywodraeth Cymru. Ymchwil Canser y DU sy'n rheoli'r bartneriaeth hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2015