Myfyrwraig o Fangor yn ennill Gwobr Nyrs y Flwyddyn

Stephanie yn derbyn ei gwobr gyda (chwith) Tina Donnelly, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru a Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithlu, Addysg a Datblygu ar ran Partneriaeth Gwasanaethau ar y cyd GIG Cymru (noddwyr y wobr).  Stephanie yn derbyn ei gwobr gyda (chwith) Tina Donnelly, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru a Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithlu, Addysg a Datblygu ar ran Partneriaeth Gwasanaethau ar y cyd GIG Cymru (noddwyr y wobr). Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi ennill Gwobr o bwys sydd yn dathlu ei llwyddiannau neilltuol a’i phroffesiynoldeb

Stephanie Morris, myfyrwraig Nyrsio Oedolion yn ei thrydedd flwyddyn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yw Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Dywedodd yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, wrth longyfarch Stephanie:

“Mae Stephanie yn enghraifft wych o’r ansawdd uchel o fyfyrwyr sy’n cael eu denu i astudio ym Mangor oherwydd enw da ein rhaglenni Nyrsio, ac sydd yna’n mynd yn ei blaenau i chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gofal iechyd ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r Wobr o bwys yn adlewyrchu ei gwaith caled a’i hymroddiad wrth gyfrannu mwy na sydd ei hangen. Mae’r ffaith mai dyma’r ail dro i un o fyfyrwyr y Brifysgol ennill y Wobr yn dweud cyfrolau am agwedd ein myfyrwyr. Llongyfarchiadau i Stephanie. Yr her i bawb arall yw a allwn ni ennill trydedd Wobr yn 2017!”

Meddai Stephanie:

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn.  Roedd yn fraint cael bod ymysg cymaint o nyrsys ysbrydoledig yn ystod y noson.  Yn ogystal â bod yn gyrhaeddiad personol, roedd ennill hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ac iechyd, sydd yn bwnc o bwys i mi. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn annog newid ar gyfer y gymuned ddigartref ac rwy’n gobeithio parhau gyda’m gwaith i wella ansawdd gofal iechyd i’r grŵp  bregus hwn.”

Ychwanegai Stephanie: “Mae fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn wych. Rwyf wedi derbyn cefnogaeth gan dîm o ddarlithwyr anhygoel yng Nghampws y Brifysgol yn Wrecsam ac mae fy nhiwtor personol, a enwebodd fi wedi bod yn neilltuol.  Rwy’n falch cael bod yn rhan o Brifysgol Bangor ac yn gobeithio y bydd hyn yn symbylu  myfyrwyr nyrsio eraill i fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael.”

Daw Stephanie, sydd yn 26 o Knokin ger Croesoswallt ac mae hi’n rhiant sengl. Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden yn gwirfoddoli drwy hwyluso dosbarth therapi celf i ddefnyddwyr gwasanaeth digartref mewn canolfan galw i mewn lleol i'r digartref. Mae'r gwaith hwn wedi cael ei ariannu fel project ymchwil gan y bwrdd iechyd lleol yn dilyn cystadleuaeth ar ffurf 'Dragon's Den', a'r nod yw gwella profiad pobl ddigartref o ofal trwy ddysgu nyrsys am ddigartrefedd er mwyn lleihau stigma a gwahaniaethu - gallwch ddilyn Stephanie yn Health4Homeless ar Twitter @smooey123.

Dywedodd John Alcock, tiwtor personol Stephanie, a'r sawl a'i henwebodd:

'Rwy'n adnabod Stephanie ers ei diwrnod cyntaf ar y cwrs ac mae'n amhosib peidio â sylwi ar ei hegni a'i brwdfrydedd tuag at nyrsio a'i hawch am addysg, sy'n disgleirio o'i llygaid. Mae ei chydweithwyr i gyd yn dweud pa mor bositif ydy hi yn y gwaith a'i bod bob amser yn gefnogol wrth ddatrys problemau o ddydd i ddydd a materion mwy strategol yn yr Ysgol yn ymwneud â'r cwrs ac addysgu a dysgu yr ydym yn cydweithio â myfyrwyr i'w datrys. Mae myfyrwyr a staff yn gweithio gyda'i gilydd i wella profiad y myfyrwyr ac i feithrin potensial ar gyfer twf a datblygiad y graddedigion nyrsio gorau posib. Mae Stephanie wedi cyfrannu'n aruthrol at ein cynorthwyo i gyrraedd y nodau hynny a thrwy hynny mae hi wedi dylanwadu ar ofal a phrofiad cleifion a defnyddwyr gwasanaeth."

Dyfarnwyd y Gwobrau mewn cinio gala Nyrs y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2016