Myfyrwyr nyrsio hael yn paratoi i ledaenu hwyl y Nadolig i gleifion Wrecsam

Myfyrwyr nyrsio gyda Cyng. Pritchard ac Angela Williams: Llun: Craig ColvilleMyfyrwyr nyrsio gyda Cyng. Pritchard ac Angela Williams: Llun: Craig ColvilleBydd myfyrwyr nyrsio Prifysgol Bangor yn dod â hwyl Nadoligaidd ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam eto eleni.

Mae myfyrwyr nyrsio oedolion o’r drydedd flwyddyn, sydd wedi'u lleoli ar gampws Wrecsam y Brifysgol, Ceri Chamorro, Kate Topple a Fern Williams, ynghyd â llawer o’u cyd-fyfyrwyr â’u darlithydd Angela Williams, wedi llenwi bocsys esgidiau â nwyddau Nadoligaidd sy'n cynnwys ystod o anrhegion a gymeradwyir gan reolwyr Ward, gan gynnwys deunyddiau ymolchi, llyfrau lliwio i oedolion ac addurniadau Nadolig. Bydd y bocsys esgidiau'n cael eu cyflwyno i gleifion ar wardiau Onnen ac Acton yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn nes ymlaen ym mis Rhagfyr.

Daeth y syniad ar ôl i Ceri weld cleifion a oedd heb deulu i ymweld â nhw yn ystod ei hamser ar y ward yn ystod Nadolig 2015.

Dywedodd Ceri: "Roeddwn ar leoliad yn Ysbyty Maelor dros y Nadolig, a gwelais gleifion heb deulu a heb gwmni. Roedd mor ofnadwy gweld rhai nad oeddent hyd yn oed yn cael cerdyn Nadolig - felly'r llynedd, fe wnaethom ni roi cerdyn i bawb ar y ward.

"Y llynedd, fe wnaethom ddosbarthu 130 o focsys esgidiau yn ogystal â chardiau Nadolig. Roedd mor llwyddiannus, fe wnaethom benderfynu gwneud hyn eto eleni gan fod effaith y project yn hynod o gadarnhaol. Daeth y profiad cyfan â llawer o lawenydd i'r holl gleifion. Mae rhannu anrhegion syml yn rhoi gwybod i'r cleifion ein bod yn meddwl amdanynt. Gan wybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth y llynedd, fe wnaethom ni sylweddoli y gall gweithredoedd bach o haelioni olygu cymaint i eraill sy'n llai ffodus.

"Mae'r nyrsys yn gweithio'n galed i wneud i gleifion sydd heb neb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a gobeithio y bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu hyn ymhellach."

Casglwyd rhoddion gan fyfyrwyr a staff yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ynghyd â’u teulu a’u ffrindiau.

Ymwelodd Maer a Maeres Wrecsam, y Cyngh. John ac Ann Pritchard ar 30 Tachwedd i roi eu bocs esgidiau i'r apêl. Gall y cyhoedd hefyd gyfrannu bocs esgidiau yn Llyfrgell Archimedes, Parc Technoleg Wrecsam, tan 12 Rhagfyr.

Dywedodd y Cyng. Pritchard: "Roedd yn ymweliad da iawn ac roedden nhw'n falch o'n gweld ni.

"Maen nhw'n gweithio'n galed iawn oherwydd maen nhw'n gwneud hyn yn eu hamser hamdden, ond maen nhw'n astudio hefyd. Mae eu hanrhegion yn sicr yn ysgogi cleifion."

Dywedodd Angela Williams, darlithydd mewn nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r myfyrwyr yn cael effaith ar fywydau pobl. Maent yn glod i'r Brifysgol yn ogystal â'r gymuned gyfan. Mae hyn yn dangos eu natur garedig, gofalgar a hael."

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017