Cymru i lansio gwasanaeth arloesol ar gyfer ymchwil i ddementia

Yn lansio Join Dementia Research oedd yr Athro Bob Woods, Chris Roberts, sy'n byw efo'r cyflwr, Y Gweinidog, Mark Drakeford; Athro John G Hughes, Is-Ganghellor a'r Athro Jo Rycroft-Malone, pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.Yn lansio Join Dementia Research oedd yr Athro Bob Woods, Chris Roberts, sy'n byw efo'r cyflwr, Y Gweinidog, Mark Drakeford; Athro John G Hughes, Is-Ganghellor a'r Athro Jo Rycroft-Malone, pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.Heddiw (2/7/15), lensir gwasanaeth cenedlaethol, ar-lein ac ar y ffôn, sy’n helpu pobl i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil dementia. Mae Join Dementia Research yn addo cyflymu’r broses o ymchwilio i ddementia yng Nghymru, gan roi cyfle i bobl â dementia a hebddo gofrestru eu diddordeb mewn astudiaethau, a helpu ymchwilwyr i ganfod y cyfranogwyr iawn ar yr adeg iawn.

Bydd Mark Drakeford, Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi’r cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru (CDGD/DSDC) ym Mhrifysgol Bangor.

Meddai’r Athro Drakeford:
 
“Mae prifysgolion a byrddau iechyd Cymru wrthi’n cydweithio ar waith ymchwil dementia o safon fyd-eang ac rwyf yn gobeithio, drwy weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia a gwirfoddolwyr eraill, y gallwn gyrraedd gwell dealltwriaeth o’r cyflwr hwn.
 
“Mae Join Dementia Research yn gam mawr ymlaen wrth inni weithio tuag at wneud Cymru’n genedl fwy addas ar gyfer pobl â dementia. Rwy’n awyddus i annog pobl i ystyried gwirfoddoli ar gyfer y gwaith pwysig hwn.”

Ar hyn o bryd, mae dementia yn effeithio ar 850,000 o bobl yn y DU, a thros 45,000 o Gymru. Fodd bynnag, mae effaith dementia yn llawer mwy, am fod 25 miliwn o boblogaeth y DU â ffrind neu berthynas agos yn dioddef. Yn ôl arolwg cenedlaethol newydd*, cafwyd y byddai bron i ddwy ran o dair o aelodau’r cyhoedd (62%) yn fodlon cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia, ond bod mwy na phedair rhan o bump (81%) yn anwybodus ynglŷn â sut i wirfoddoli. Bwriad Join Dementia Research yw goresgyn y rhwystrau hyn a rhoi cyfle i bawb chwarae rhan yn y broses o newid rhagolygon pobl â dementia, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae diffyg mynediad at wirfoddolwyr bodlon yn atal ymchwil o bwys tyngedfennol i’r cyflwr, a ffigurau gan y llywodraeth yn dangos bod llai na 5% o bobl â dementia yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil. Bydd Join Dementia Research yn hwb i gyfranogiad mewn ymchwil, trwy gysylltu pobl sydd â diddordeb mewn ymchwil dementia ag astudiaethau addas ar ddementia ar draws Cymru ac mewn rhannau eraill o’r DU, yn ogystal â chyflymu’r drefn recriwtio ar gyfer ymchwilwyr. Wrth gofrestru, mae gwirfoddolwyr yn caniatáu i rywun gysylltu â hwy a gofyn iddynt gymryd rhan mewn astudiaethau newydd sy’n digwydd yn eu hardal; o hynny allan, gallant benderfynu a ydynt am gymryd rhan.

Mae Join Dementia Research yn gydweithrediad rhwng y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), Ymchwil Alzheimer y DU, Cymdeithas Alzheimer Alzheimer yr Alban. Ers ei lansiad yn Lloegr a’r Alban yn Chwefror, mae mwy na 7,500 o bobl wedi cofrestru eu diddordeb mewn astudiaethau ymchwil. O’r rheiny, mae mwy na 1,300 eisoes wedi’u cofrestru i ymchwil.

Mae Canolfan Prifysgol Bangor ar Ddatblygu Gwasanaethau Dementia (CDGD), wedi bod ar flaen y gad wrth hwyluso’r broses o gyflwyno Join Dementia Research ar draws Cymru.   Dyma’r Athro Bob Woods, Cyfarwyddwr y Ganolfan, yn esbonio:

“Mae Join Dementia Research yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil gyda’r timau ymchwil neilltuol sydd gennym yng Nghymru. Mae ein projectau ar ddeall dementia a gwella gofal dementia eisoes yn cael budd o’r gwasanaeth yn Lloegr, felly rydym yn sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yng Nghymru hefyd.”

Un o’r astudiaethau sy’n recriwtio ar gyfer gwirfoddolwyr yng Nghymru yw AD Genetics, sy’n edrych ar y modd y mae rhai genynnau yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddatblygu clefyd Alzheimer, yn enwedig pan fo’n dechrau’n gynnar. Caiff gwirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio i’r astudiaeth ymweliad gan nyrs, a gofynnir iddynt gwblhau cyfweliad byr a phrawf cof.

Yr Athro Julie Williams, o Brifysgol Caerdydd, sy’n gwneud yr ymchwil hon ac yn defnyddio Join Dementia Research i recriwtio gwirfoddolwyr. Dyma ddywedodd hi: 

“Daeth ein hymchwil yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn bosibl wrth i filoedd o bobl wirfoddoli i fod yn rhan o’n hastudiaethau rhyngwladol. Gyda’r cymorth hwn, rydym wedi adnabod mwy nag 20 o enynnau sy’n cyfrannu at ddatblygiad clefyd Alzheimer, ac wedi cael syniadau ar gyfer therapïau newydd i atal a thrin clefyd Alzheimer. Pe buasai modd inni gyrchu adnodd fel Join Dementia Research, byddem wedi gallu gwneud ein hymchwil yn hanner yr amser. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lwyddiant astudiaethau i ddod, yn canolbwyntio ar ddeall achosion dementia sy’n dechrau’n gynnar a darpariaethau triniaethau ar ei chyfer. Rwy’n canmol pawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses o lansio’r fenter hon.”

Mae Chris Roberts, 54, o Ruddlan yng Ngogledd Cymru, yn byw gyda dementia.  Meddai:

“Ar ôl diagnosis o ddementia, mae eich holl deulu hefyd yn cael y diagnosis; gwaith tîm yw hwn. Yna, yr hyn sydd ei angen yw gobaith; dyma y mae ymchwil yn ei roi inni. Dyma’r rheswm ei bod mor bwysig i bobl fod yn ymwybodol ohono, a gwybod bod ymchwil yn digwydd. Yn ogystal â’r bobl sy’n byw gyda dementia, mae arnom angen pobl ag ymennydd iach hefyd. Ar y cyd, gallwn wneud gwahaniaeth, da chi, ymunwch â ’nhîm i, ac ymunwch ag ymchwil i ddementia.”

Mae gwefan joindementiaresearch.nihr.ac.uk yn cynnig ffordd ddiogel a hwylus i bobl gofrestru eu diddordeb, darganfod astudiaethau sydd o ddiddordeb iddynt hwy ac, yn y pen draw, cysylltu ag ymchwilwyr er mwyn cymryd rhan yn eu hastudiaethau.

Gall unrhyw un 18 oed neu fwy ymrestru drostynt eu hunain, neu ar ran rhywun arall, naill ai trwy gofrestru ar-lein neu drwy gysylltu â llinellau cymorth Alzheimer yr Alban (0808 8-8 3000), Ymchwil Alzheimer y DU (0300 111 5 111) a Chymdeithas Alzheimer (0300 222 1122). Wrth ymrestru i’r gwasanaeth, mae pobl yn rhoi caniatâd i ymchwilwyr gysylltu â hwy a rhoi manylion iddynt am astudiaethau a gynhelir yn eu hardal hwy ac sy’n cyfateb i’w proffil. Yna, gall pobl benderfynu a hoffent gymryd rhan yn yr astudiaethau hynny fesul achos unigol. Wrth gofrestru, nid oes raid i bobl gymryd rhan mewn unrhyw astudiaethau, a gallant dynnu allan ar unrhyw adeg.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015