Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol

 Y disgyblion gyda'r Myfyrwyr-Lysgenhadon a Sera Mai Williams o Adran Marchnata's Brifysgol. Y disgyblion gyda'r Myfyrwyr-Lysgenhadon a Sera Mai Williams o Adran Marchnata's Brifysgol.Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Treuliodd y disgyblion Blwyddyn 12 dri diwrnod yn cael profiad dwys o addysg uwch mewn Ysgol Haf, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn cael dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd gan brifysgol i’w gynnig. Nid oedd gan rai o’r disgyblion a fu’n mynychu unrhyw brofiad teuluol o fynychu prifysgol.

Roedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys darlithoedd byr yn seiliedig ar bynciau academaidd a sesiynau ymarferol ar ddatblygu gyrfa, ar gyllid myfyrwyr a gwasanaethau cefnogi. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Adran Farchnata’r Brifysgol, hefyd yn gyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol, gyda thîm o Fyfyrwyr-Lysgenhadon yn mynd gyda’r disgyblion i’r gweithgareddau ac yno i ateb unrhyw gwestiynau am fywyd prifysgol.

Roedd y seminarau academaidd yn cynnwys pynciau megis Hanes, Gwyddorau Gofal Iechyd (Nyrsio a Bydwreigiaeth), y Gyfraith, Seicoleg, Gwyddorau Eigion ac Ieithoedd Modern.  Bu’r grŵp, a fu’n aros mewn fflatiau ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd, hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau Adeiladu Tîm megis paintball a chertio. 

 Adnabod sŵplancton o dan y meicrosgôp yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Adnabod sŵplancton o dan y meicrosgôp yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.“Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion Blwyddyn 12 ar draws gogledd Cymru ganfod mwy am y profiad llawn o fynd i Brifysgol, o fynychu darlithoedd academaidd a seminarau at aros mewn neuaddau preswyl a chael cwrdd â phobl newydd,” meddai Amanda Smith, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Digwyddiadau.

“Roedd yr adborth a gawsom gan y disgyblion yn wych – gyda phawb eisio aros am dridiau arall!  Roedd yn gyfle iddynt ddod i adnabod eraill, gyda’r rhai a fu yma’n gwneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol – a nifer ohonynt yn ystyried gwneud cais i astudio cyrsiau ym Mhrifysgol Bangor y flwyddyn nesaf.”

Roedd y disgyblion o’r ysgolion canlynol: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Denbigh High School; Ysgol John Bright, Llandudno;   Ysgol Alun, Yr Wyddgrug; Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn; Ysgol Uwchradd Caergybi; Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy; Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Brynrefail, Llanrug; Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn; Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 A Law discussion Trafodaeth am y Gyfraith.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018