Asesu effeithiolrwydd adnoddau cefnogi newydd ar gyfer gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia

Mae adnodd hyfforddi a chefnogi ar-lein a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer teulu a ffrindiau sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia i gael ei asesu i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf. Mae'r project ymchwil hwn dan arweiniad Prifysgol Bangor a chaiff ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda dementia yn cael cefnogaeth ac yn derbyn gofal gan aelodau'r teulu. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda dementia yn derbyn gofal gartref, a gall y gwaith achosi straen mawr, gyda llawer o ofalwyr yn profi salwch meddyliol a chorfforol o ganlyniad.

Yn aml mae gan y 'gofalwyr anffurfiol' hyn wybodaeth arbenigol gyfyngedig am dementia a gofal dementia, heb sôn am sut y maent yn gallu rheoli eu straen eu hunain fel gofalwyr. Mae Covid-19 wedi golygu bod llawer o wasanaethau cefnogi cymunedol i bobl sy'n byw gyda dementia wedi'u canslo, gan roi pwysau cynyddol ar ofalwyr.

Bwriad 'iSupport' yw helpu gofalwyr dementia i ddarparu gofal da ac i ofalu am eu hunain.  Gall gofalwyr ddefnyddio iSupport wrth eu pwysau. Gallant fynd at unrhyw rannau o iSupport maent yn teimlo sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw o'r lle o'u dewis gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

Fel yr eglurodd yr Athro Gill Windle, sy'n arwain y tîm ymchwil rhyngwladol o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor:

“Pryd bynnag y cyflwynir gwasanaethau neu weithdrefnau meddygol newydd, mae angen eu hasesu i sicrhau eu heffeithlonrwydd a’u heffeithiolrwydd.  Mae canllawiau'r GIG yn argymell y dylid cynnig hyfforddiant  i ofalwyr anffurfiol pobl sy'n byw gyda dementia fel teulu a ffrindiau i'w helpu i ddatblygu sgiliau gofalu a sgiliau i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain.  Credwn y bydd iSupport yn ateb da. Cyn unrhyw gyflwyniad, mae angen i ni gynnal gwerthusiad llawn o'r costau a'r buddion, gan ystyried pa mor effeithiol yw'r cwrs ar-lein wrth leihau trallod, a pha agwedd ar y cwrs y mae gofalwyr yn ei hoffi."

Dywedodd Faaiza Bashir, Rheolwr Ymchwil Polisi ac Ymgysylltu ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

“Mae gofalwyr di-dâl yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol hanfodol i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd. Heb ofalwyr di-dâl, byddai'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn anghynaladwy a byddai hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu gadael yn methu ag ymdopi. Mae'r cyfraniad y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud nid yn unig yn newid bywydau ond yn arbed mwy na £8.1bn y flwyddyn i economi Cymru. Er gwaethaf hyn, yn aml nid ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw na'r gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu.”

“Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch iawn o gydweithio â Phrifysgol Bangor i sicrhau bod gofalwyr pobl â dementia ledled y DU yn gallu ennill sgiliau a hyder fel gofalwyr trwy'r project hwn a mynediad at wybodaeth ac offer i'w helpu i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain.”

Mae gofalwyr ifanc 11-17 oed yn ganolbwynt arall i'r gwaith. Dywedodd Dr. Patricia Mastersen-Algar sy'n arwain yr agwedd hon ar yr astudiaeth:

“Ar hyn o bryd nid oes ymyriadau cefnogi ar sail tystiolaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n gofalu am bobl â dementia. Felly bydd y tîm yn gweithio gyda grŵp o ofalwyr ifanc ac yn addasu iSupport iddyn nhw ei ddefnyddio. Rydym eisiau nodi pa ganlyniadau sydd bwysicaf iddyn nhw, ac asesu'r fersiwn newydd hon o iSupport gyda 30 o ofalwyr ifanc." 

Cynhelir yr ymchwil gan Brifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Strathclyde, gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Alzheimer's Scotland, Vrije Universiteit Amsterdam, a gyda chymorth 365 o ofalwyr dementia o bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd pedair swydd newydd yn cael eu creu, ac mae'r tîm ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer rheolwr fydd â chyfrifoldebau dros sefydlu, cydgysylltu a chyflawni'r astudiaeth iSupport. Rhagor o wybodaeth yma.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2020