Efelychu Rhyngbroffesiynol
Ar 11 Rhagfyr 2018, bu myfyrwyr maes plant a radiograffeg y drydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn ymarferiad efelychu rhyngbroffesiynol cyntaf yr ysgol. Gwnaed yr efelychu'n bosib ar ôl prynu offer efelychu maes plant newydd o ansawdd da ac fe'i cynhaliwyd yn ystafell Pelydr-X yr adran radioleg yng Nghampws Wrecsam. Roedd tîm o ddarlithwyr ym maes plant a radiograffeg, ynghyd â'r Athro Debbie Roberts, wedi cynllunio senario cydweithredol i hyrwyddo gweithio rhyngbroffesiynol a chyfathrebu, annog gwneud penderfyniadau clinigol a dod ag ymwybyddiaeth o'r gwahanol swyddogaethau a dulliau tîm o weithredu mewn ymarfer.
Roedd yr efelychu yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r myfyrwyr maes plant fynd â phlentyn difrifol wael i gael Pelydr-X. Cynlluniwyd yr efelychu i ddilyn ymarfer clinigol mor agos â phosibl ond mewn amgylchedd dysgu diogel. Y plentyn yn y senario oedd Laerdal SimJunior, sef yr efelychydd o ansawdd da ym maes plant, roedd aelodau'r staff yn chwarae'r rhieni ac roedd yr efelychydd yn cael ei reoli o bell gan aelod o'r tîm. Wrth i'r efelychu fynd rhagddo, dechreuodd gyflwr y plentyn ddirywio a bu'n rhaid i fyfyrwyr gydweithio i sefydlogi'r plentyn ac asesu a oedd yn ddiogel i barhau gyda'r Pelydr-X arfaethedig. Roedd yn rhaid i fyfyrwyr o'r ddwy ddisgyblaeth hefyd weithio gyda'r rhiant yn y senario i hyrwyddo gofal plentyn sy'n canolbwyntio ar y teulu ac i leddfu pryder y rhieni a'r plentyn. Roedd yr efelychu'n rhoi cyfle i fyfyrwyr fabwysiadu swyddogaeth yr ymarferydd cymwys yn eu disgyblaethau priodol a gweithio'n annibynnol mewn amgylchedd diogel. Hefyd, cyflwynodd y tîm swyddogaeth yr arsylwr i'r cyfle dysgu: roedd hyn yn galluogi myfyrwyr i gael cyfle i roi adborth gan gymheiriaid ar agweddau o'r senario yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig. Dilynwyd y senario gyda sesiwn rhannu gwybodaeth strwythuredig gan ddefnyddio'r model diemwnt i alluogi myfyrwyr i adfyfyrio ar eu hymarfer a gwneud penderfyniadau. Roedd gwerthusiadau'r myfyrwyr yn cynnwys y sylwadau canlynol:
"Cymryd cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach a pheidio â chanolbwyntio gymaint ar fy rôl i, cyfathrebu ag eraill"
"Dysgais i fod yn ddigyffro mewn sefyllfa anodd"
"Bod yn fwy hyderus gyda fy marn"
"Dysgais i gyfathrebu'n llawer mwy effeithiol"
"Ein bod yn gallu dysgu sgiliau hanfodol o broffesiynau eraill"
"Mae'n bwysig bod proffesiynau'n gweithio gyda'i gilydd gan roi'r prif ffocws ar y claf bob amser"
"Mae dysgu gyda'n gilydd wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth a chyfathrebu"
Hoffai'r tîm ddiolch yn arbennig i Richard Davies a Kevin Stirling o Laerdal Medical, gan y bu'r ddau yn cefnogi a chyfrannu at greu a chynnal yr Efelychu.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019