Nid yw pympiau inswlin o fawr werth yn hytrach na phigiadau lluosog yn achos plant yn y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt gael diagnosis Diabetes Math 1

Arweiniodd Dr Colin Ridyard a'r Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) y dadansoddiad economaidd iechyd o astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn ymchwilio i weld a oedd inswlin a roddir gan ddefnyddio pympiau arllwysiad yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na defnyddio pigiadau mewn babanod, plant a phobl ifanc a oedd newydd gael eu diagnosio â diabetes math I.

Darganfu'r treial clinigol, a gyllidwyd gan y National Institute for Health Research ac a arweiniwyd gan Dr Joanne Blair o Alder Hey Children's NHS Foundation Trust, nad oedd rheoli glwcos gwaed plant pan gaiff ei drin â phwmp arllwysiad inswlin parhaus ddim gwell o'i gymharu â phigiadau lluosog. Fodd bynnag, roedd pympiau arllwysiad yn fwy costus, sef £1,863 yn ychwanegol fesul claf bob blwyddyn, sy'n golygu na chynghorir y GIG i ddefnyddio pympiau arllwysiad yn gyson yn ystod blwyddyn gyntaf triniaeth.

Mae CHEME yn rhan o Sefydliad Ymchwil Gofal Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae'r astudiaeth ar gael trwy'r linc ganlynol:

https://www.journalslibrary.nihr.ac.uk/hta/hta22420/#/abstract

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018