Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru

(Datganiad Age Cymru)

Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).

Credir mai'r project hwn yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop ac fe'i cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Baring Foundation. Roedd yn cynnwys dros 1,500 o breswylwyr a dros 300 o staff cartrefi gofal a anogwyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gelf, yn cynnwys dawns, cerddoriaeth, paentio ac ysgrifennu creadigol.  Arweiniwyd eu hymdrechion artistig gan 16 o ymarferwyr celf a oedd, yn eu tro, yn cael eu cefnogi gan bedwar mentor celf arbenigol. 

Gwnaed y gwerthusiad o'r project gan Dr Katherine Algar Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Darganfu bod y project wedi gwella lles trigolion, gwella eu sgiliau cymdeithasol, a hyd yn oed helpu rhai ohonynt i ail-ddarganfod galluoedd yr oeddent wedi eu colli ers amser mawr, megis defnyddio cyllell a fforc.  Darganfu hefyd bod y project wedi cael effaith gadarnhaol ar staff cartrefi gofal gyda llawer yn dweud fod eu hagweddau at breswylwyr wedi gwella, yn arbennig rhai â dementia. Meddai un gofalwr "Fe wnaeth i mi sylweddoli fod y preswylwyr yn fwy medrus nag rydym yn ei sylweddoli'n aml."

Darganfu'r gwerthusiad yn ogystal bod y project wedi datblygu grŵp o artistiaid sy'n awr yn medru gweithio'n well gyda phobl hŷn bregus mewn cartrefi gofal a bod bywydau'r preswylwyr yn fwy tebygol o gael ei adlewyrchu mewn gwaith a wneir gan yr artistiaid yn y dyfodol. 

Meddai cadeirydd Age Cymru, Meirion Hughes, am ddarganfyddiadau Dr Algar Skaife: 

"Mae'r project cARTrefu yn haeddu canmoliaeth eang a chydnabyddiaeth am helpu i newid yn sylfaenol ein canfyddiadau a'n disgwyliadau ynghylch pobl hŷn bregus mewn cartrefi gofal. Ers llawer rhy hir, roedd gennym gamargraff o alluoedd a dyheadau preswylwyr. 

"Fodd bynnag, mae'r project cARTrefu hwn wedi gwthio cartrefi gofal a'u preswylwyr i flaen ein hymwybyddiaeth, a hynny'n briodol ddigonol, diolch i sgiliau'r artistiaid a chyfraniad y cartrefi gofal a'u staff a gymerodd ran yn y gwaith.

"Rwy'n hynod falch, felly, y cafwyd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring ar gyfer cARTrefu II i fynd â'r project yn ei flaen tan 2019 er mwyn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ac ymestyn ei fanteision i grŵp ehangach o breswylwyr."

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017