Gweithio ar y cyd i helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae prosiect cydweithredol rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill sy’n ceisio taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd wedi cael ei lansio mewn dwy ardal. 

Gan weithio â Phrifysgol Bangor a’r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adolygu’r ffordd y mae’n taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae tactegau megis patrolau targed a datrys problemau wedi’u cydnabod yn rhyngwladol fel arferion da o ran gostwng lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.

Ar ddechrau Tachwedd 2012, cafodd y prosiect ei lansio yn Y Rhyl a Wrecsam a gwelwyd y manteision yn syth.  Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod llai o alwadau wedi'u gwneud i ystafell reoli'r heddlu o'r ardaloedd sy’n rhan o’r prosiect.

Meddai Arolygydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu, Michael Isaacs: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu'r materion hynny sy’n achosi’r pryder mwyaf i gymunedau Gogledd Cymru ac mae’n galonogol clywed bod y cyhoedd wedi bod yn dweud wrthym yn barod eu bod yn gweld gwelliant yn eu cymdogaethau.”

Bydd y treialon yn parhau tan Mai 2013, ac yna bydd Prifysgol Bangor yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i bennu os yw’r math hwn o blismona yn effeithiol.  Er bod yna dystiolaeth dda i gefnogi’r dull hwn o blismona, bydd yr astudiaeth yn galluogi’r Heddlu i werthuso ei effeithiolrwydd yng Ngogledd Cymru.

 

Mae’r Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton, cyd-gyfarwyddwyr rhaglen ymchwil IMPLEMENT@BU yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o’r tîm sy’n helpu i ddatblygu atebion plismona effeithiol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Meddai’r Athro Rycroft-Malone: “Mae Dr Burton a minnau yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona ar faterion sydd o bwysigrwydd rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae'r prosiect cydweithredol hwn yn gyfle gwych i rannu profiadau ac arbenigedd wrth geisio darganfod 'be' sy'n gweithio' ar draws y gwahanol wasanaethau cyhoeddus."

 

“Mae lleihau a datrys trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru,” meddai Ian Shannon, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. 

 

“Rwy’n falch o’r gefnogaeth yr ydym yn ei chael gan Brifysgol Bangor a’r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona.  Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn arddangos ein hymrwymiad i gydweithio sy'n allweddol er mwyn amddiffyn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i'r cyhoedd, yn enwedig mewn cyfnod pan fo adnoddau'n gyfyngedig."

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013