Gwobr Genedlaethol i Nesta

Yn ddiweddar bu i fyfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol yng Nghynhadledd Flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru yng Nghaerdydd.

Bu i Nesta Roberts, 25 oed, o Gricieth, ennill ysgoloriaeth goffa nyrsio flynyddol Alun Islwyn Giles. Rhoddwyd y wobr tuag at ei hastudiaeth doethuriaeth, ac mae ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, i hyrwyddo datblygu celf a gwyddoniaeth mewn nyrsio.

Mae astudiaeth ymchwil Nesta'n ymwneud â datblygu 'Cynlluniau Gofal Cysylltiol' sy'n ceisio gwella gofal pobl â dementia a chyflymu'r broses o'u trosglwyddo o ofal ysbyty i gartrefi gofal. Bydd hyn yn cyfrannu at y nod o gyfathrebu anghenion claf dementia yn well, yn ogystal â chryfhau'r bartneriaeth rhwng pobl â dementia, eu teuluoedd, cartrefi gofal a gweithwyr proffesiynol ysbytai ar lefel leol, sefydliadol a strategol.

Mae Nesta hefyd yn gweithio ar hyn o bryd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Adolygwr Nyrsys Gofal Iechyd Parhaus ac Arweinydd Project Monitro Ansawdd.

Eglura Nesta: “Mae'n anrhydedd i mi ennill y wobr glodfawr hon, ac mae fy niolch yn fawr i Brifysgol Bangor am yr holl gefnogaeth, yn arbennig fy ngoruchwyliwr, Dr Sion Williams.  Mae'n galonogol iawn fel cymrawd ar ddechrau gyrfa bod ymchwil wir yn cael ei chymeradwyo mewn nyrsio, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli nyrsys eraill sydd newydd gymhwyso i ddilyn llwybr ymchwil. Gobeithiaf y bydd yr ymchwil yn gallu darparu cyfraniadau arwyddocaol i'r maes, a gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n dioddef o ddementia."

  

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2013