Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn 'Ffrindiau Dementia' cyn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia

Ddydd Llun 8 Mai 2017 rhoddodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wahoddiad i Theresa Davies i gyflwyno sesiwn Ffrindiau Dementia i ddosbarth o nyrsys yn Wrecsam. 

Mae Theresa yn Hyrwyddwr Dementia ac mae'n byw â dementia ac yn 'arbenigwraig trwy brofiad' gan ddefnyddio ei phrofiad personol ei hun er mwyn helpu i addysgu pobl yn y diwydiant a phobl sydd newydd gael diagnosis.

Dywedodd Kate Williams sydd yn fyfyrwraig nyrsio yn y maes Oedolion ar ei 3edd flwyddyn:

“Ro’n i’n meddwl bod y sesiwn yn agoriad llygad. Roedd Theresa yn ysbrydoliaeth ac ro'n i'n meddwl ei bod hi'n ddewr iawn yn sefyll o'n blaenau ni ac adrodd ei hanes. Roedd o'n brofiad wnaeth wneud i fi feddwl ac yn un y bydda i yn ei gofio am byth."

Roedd y sgwrs hon yn un o nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn y cyfnod yn arwain at Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia rhwng 14 a 20 Mai mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth ar draws y Brifysgol ac i feithrin Cymunedau sy'n Deall Dementia.

Menter gan y Gymdeithas Alzheimer yw Ffrindiau Dementia er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl am ddementia.Dywedodd Theresa Davies, a gyflwynodd y sesiwn:

"Mi wnes i fwynhau cyflwyno'r sesiwn Ffrindiau Dementia i fyfyrwyr nyrsio'r 3edd flwyddyn. Mi ges i adborth da iawn. Fel rhywun sy'n byw efo dementia dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ofnadwy fod ymwybyddiaeth dementia’n cael ei gynnwys fel rhan o hyfforddiant nyrsys."

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig MSc Astudiaethau Dementia yn ogystal â chyfleoedd ôl-radd gyda'r bwriad o ddatblygu gofal dementia sy'n canolbwyntio ar y person a'r teulu ar draws lleoliadau llym a chymunedol amrywiol. 

Lluniau “Theresa Davies yn annerch Nyrsys dan Hyfforddiant yng Nghampws Wrecsam, Prifysgol Bangor”

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2017