Myfyrwraig Bydwreigiaeth o'r drydedd flwyddyn yn derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig.
Mae Jade Parsons, myfyrwraig BM Bydwreigiaeth wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig yng ngwobrau MaMa yn Glasgow.
Yn wreiddiol, cafodd Jade ei henwebu am wobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn, ond iddi hi y dewisodd y beirniaid roi'r wobr cydnabyddiaeth arbennig a roddir i un enwebai eithriadol ym mhob categori.
Dywedodd Jade “Mae ennill y wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn yn un o uchafbwyntiau fy mywyd! Dwi'n falch iawn o gael y fath gydnabyddiaeth am wneud rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae'r mentoriaid a'r darlithwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn anhygoel. Nhw sydd wedi fy ysbrydoli wrth imi astudio Bydwreigiaeth”
Wrth siarad am y wobr, dywedodd Gillian Smith, a oedd yn llywyddu'r seremoni wobrwyo, “Edrychodd beirniaid y Wobr MaMa yn ofalus iawn ar y categori hwn… Gwelodd y beirniaid fod Jade yn fyfyrwraig arbennig iawn… mae'n ymddangos fod ganddi amser i bawb yn ogystal ag amser i'w neilltuo i'w hastudiaethau. Mae wedi wynebu sawl her yn ystod ei chyfnod hyfforddi ond mae ei chydweithwyr a'i darlithwyr yn ei disgrifio fel myfyrwraig 'ragorol' a 'thosturiol'. Cadwch lygad ar hon!”
Dywedodd Sheila Brown, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Prifysgol Bangor, “Mae Jade yn fyfyrwraig eithriadol ac rwy'n falch iawn bod beirniaid gwobr MaMa wedi gweld hynny ac wedi dyfarnu'r wobr cydnabyddiaeth arbennig iddi. Mae Jade wedi dangos gofal a thosturi at ei chyd-fyfyrwyr ers dechrau'r rhaglen, mae hi'n ofalwraig i'r carn a bydd yn aelod gwych o'r tîm yn ei rôl fel bydwraig gymwys yn y dyfodol. Mae Jade hefyd wedi rhagori'n academaidd oherwydd ei brwdfrydedd i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y ferch. Edrychaf ymlaen at weld lle mae gyrfa Jade yn mynd â hi!”
Roedd Jade hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn yn y Student Nursing Time Awards.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019