Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru.

Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus

Dewiswyd y cymrodyr hyn ar gyfer Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd fawreddog y Cynulliad yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol. 

Cynlluniwyd y rhaglen newydd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth y Cynulliad o ran meysydd polisi allweddol, wrth i'r academyddion rannu eu harbenigedd a chynnal ymchwil newydd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac arfer er budd pobl Cymru.

Bydd Dr Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith yn astudio rôl bresennol y Cynulliad – a’i ddyfodol - mewn perthynas ag agweddau o’r gyfundrefn Cyfiawnder sydd wedi eu datganoli i Gymru, yn enwedig y drefn cyfiawnder gweinyddol sydd yn cynnwys tribiwnlysoedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Comisiynwyr Cymraeg. Bydd Sarah hefyd yn ymchwilio’r berthynas rhwng cyfraith weinyddol Gymreig, hawliau dynol a chydraddoldeb.

Bydd Dr David Dallimore o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnal ymchwil a fydd yn archwilio’r dewisiadau ar gyfer trefn syml a chlir a fydd yn galluogi pob plentyn cyn oed ysgol yng Nghymru i gael mynediad at addysg gynnar a gofal o ansawdd, ac wedi ei integreiddio.

Wrth esbonio’r rôl, dywedodd Dr Alec Dauncey o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol:

“Mae gan Gymru dirwedd amrywiol gyda choedwigoedd coniffer yn ogystal â choetir derw hynafol. Wrth iddynt dyfu, maent yn cymryd carbon o’r aer ac yn ei droi’n goetir. Gall coed a choetir ymateb fel sbwng yn y tirwedd, yn gafael ar ddŵr yn eu dail a’r priddoedd. Byddaf yn casglu’r holl syniadau diweddaraf a’r ffeithiau am sut y gall mathau gwahanol o goetir ein helpu wrth hel carbon o’r awyr, ac arafu rhediad dŵr, er mwyn lleihau gorlifiadau. Byddaf yn edrych ar sut y gallwn reoli a thorri’r coed sydd gennym eisoes a sut y gall coed sydd wedi eu plannu ac sydd yn tyfu ohonynt eu hunain weddu orau o fewn tirwedd sydd yn cael ei ffermio yng Nghymru.”

Mae lleoliadau cymrodoriaeth yn rhan-amser am gyfnod o hyd at chwe mis bob tro, a bydd academyddion yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Ymchwil arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cefnogi Aelodau'r Cynulliad a phwyllgorau yn y Senedd.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Rwy'n croesawu'r saith cymrodoriaeth newydd gyda phrifysgolion o bob cwr o Gymru a fydd yn rhoi mynediad i ni at arbenigedd academaidd ar ystod eang o feysydd polisi pwysig.   

"Mae hyn yn dilyn ein cynllun cymrodoriaeth beilot llwyddiannus ac mae'n rhan o'n rhaglen barhaus i annog pobl i ymgysylltu ag academyddion.   

"Y gobaith yw y bydd manteisio ar yr arbenigedd allanol hyn yn galluogi Aelodau a Staff y Comisiwn i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth.  

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy’n cyd-fynd ag amcan strategol Comisiwn y Cynulliad i ddarparu cefnogaeth seneddol ragorol ac ymgysylltu â holl bobl Cymru."

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:

"Mae manteisio ar wybodaeth academyddion uchel eu parch yn hanfodol i ddeall materion cymhleth yng Nghymru a datblygu ffyrdd o fynd i'r afael â nhw.

"O’u rhan hwy, bydd y gwaith ymchwil y maent yn ei gynhyrchu yn llywio dadleuon y Cynulliad, yn gwella'r broses o graffu ar bolisi cyhoeddus ac yn arwain at well canlyniadau i bobl Cymru."

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019