Ymchwilydd rhyngwladol nodedig a chynghorwr iechyd cyhoeddus yn derbyn Cadair er Anrhydedd

Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Cadair er Anrhydedd i'r Athro Mark Bellis, ymchwilydd rhyngwladol adnabyddus a chynghorwr ym maes iechyd cyhoeddus. Rhoddwyd y gadair i gydnabod ei gyraeddiadau mewn sawl maes o iechyd cyhoeddus, yn cynnwys atal trais, alcohol, cyffuriau ac iechyd rhywiol. 

Meddai'r Athro Bellis, a fydd yn darlithio a chyfrannu at ymchwil yn y Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad:
"Rwy'n hynod falch o gael ymuno â Phrifysgol Bangor a chael cyfle i gyfrannu at raglenni ymchwil ac addysg o'r safon uchaf.  Gan weithio gyda chydweithwyr yn y Brifysgol rwy'n gobeithio cefnogi ymchwil sy'n gwneud gwir wahaniaeth i bobl yng Nghymru ac sydd o ddiddordeb hefyd i ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ar lefel ryngwladol."

"Rydym eisoes yn cynllunio gwaith ym Mangor, ar y cyd â Sefydliad Iechyd y Byd a phrifysgolion eraill yn fyd-eang, i nodi'r dulliau gorau i atal trais megis cam-drin plant, trais yn y cartref ac ymosodiadau'n gysylltiedig ag alcohol mewn trefi a dinasoedd.  Rwy'n gobeithio y bydd fy nghadair er anrhydedd ym Mangor yn golygu y gallaf wneud mwy i ddatblygu'r math yma o waith dros y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â gwaith mewn llawer o feysydd ymchwil eraill," ychwanegodd.

Mae Mark Bellis yn Gyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu i Iechyd Cyhoeddus Cymru,  yn Gadeirydd Canolfan Gydweithredol Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd ac yn arweinydd ar faterion yn ymwneud ag alcohol i Gyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU.  Mae wedi cyhoeddi dros 140 o bapurau academaidd a dros 200 o adroddiadau ym maes iechyd cyhoeddus.  Mae'n gweithio'n rheolaidd ar ddatblygu polisi iechyd cyhoeddus ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; gweithio gyda Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throsedd, Sefydliad Iechyd y Byd a sefydliadau eraill yn perthyn i'r CU. 

Fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Mark yn arwain ar faterion polisi, ymchwil ac iechyd rhyngwladol.  Mae'r Athro Bellis yn cynghori Sefydliad Iechyd y Byd ar atal trais ac anafiadau, mae'n ymgynghorydd arbenigol i'r Swyddfa Gartref, yn ymgynghorydd academaidd i Public Health England ac yn aelod o banel arbenigwyr byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar atal trais.

Meddai'r Athro Nicky Callow, Deon y Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad:  

"Bydd penodiad Mark yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ein gweithgaredd ymchwil a bydd yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio ar agweddau Cymru gyfan wrth gyflawni datblygiadau cenedlaethol pwysig ym maes iechyd cyhoeddus gydag elfennau ymchwil cadarn iddynt." 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014