Athro yn dod yn aelod Anrhydeddus Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU

Cyflwynir aelodaeth Anrhydeddus Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU i'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol, mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghynhadledd y Gyfadran ym Manceinion heddiw (2 Gorffennaf).

Mae Rhiannon yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru'r GIG ar lefel cenedlaethol ac yn cefnogi gwaith ym maes Iechyd Cyhoeddus ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2014