Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia

Wrth i Lywodraeth Cymru wahodd ymatebion i’w Strategaeth Dementia a lansiwyd yn ddiweddar, mae Prifysgol Bangor yn dod â phobl sy’n byw gyda dementia ynghyd, yn ogystal â chyrff sydd yn gweithio ar gefnogaeth sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau, i rannu ymarfer dda yng Ngogledd Cymru.

Bydd y Gynhadledd, Byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a gynhelir yn y Brifysgol ar Ionawr 27,  yn clywed profiadau pobl sy’n byw â dementia yn ogystal â phrofiadau nifer o gyrff sydd yn darparu rhaglenni sydd yn cefnogi rhai sydd â dementia ac yn cynnal ymchwil yn y maes.

Sefydlodd un o drefnwyr y Gynhadledd, Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Dementia y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol, Rwydwaith Dementia Gogledd Cymru yn ddiweddar, fel bod pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a rhai sydd yn gofalu amdanynt, yn medru rhannu profiadau mewn amgylchedd o gefnogaeth.

Meddai Catrin:

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn canfod cymaint o ffyrdd ag sydd bosibl o gefnogi pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr, ac i ddatblygu cymunedau dementia-gyfeillgar. Rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd gan gynnwys ein ‘arbenigwyr drwy brofiad’, fel ein bod yn canfod y modd orau i fyw bywyd llawn gyda dementia.”

Bydd nifer o brojectau arloesol yn cael sylw yn ystod y Gynhadledd, megis yr ymchwil traws-Brydain, Dementia a’r Dychymyg, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ac sydd yn edrych ar sut y gall ymgymryd â’r celfyddydau gefnogi a chyfoethogi bywydau pobl sydd yn byw gyda dementia. Mae’r project tair blynedd wedi cynnwys pobl sy’n ymwneud â digyblaethau’r celfyddydau a’r dyniaethau, disgyblaethau iechyd a gwyddorau cymdeithas i holi a all celfyddyd wella bywydau pobl sydd â dementia a’r rhai sydd yn gofalu amdanynt.

Bydd y rhai sydd yn mynychu’r Gynhadledd hefyd yn gweld darn o gelf sydd wedi ei gyd-greu gan bobl sydd â dementia a gan ddisgyblion o Ysgol Brynrefail, Llanrug, Ysgol Gynradd Trefnant, Sir Ddinbych ac Ysgol Nannerch ger yr Wyddgrug.

Mae pynciau trafod y Gynhadledd yn cynnwys cyngor cyfreithiol a budd-daliadau, cyngor ar ôl diagnosis, hawliau dynol a’r Strategaeth Dementia newydd a sut  y gall ymchwil gyfrannu. Bydd Dr Catrin Hedd Jones yn rhannu ei phrofiadau o ddod â phlant meithrin ynghyd â’r henoed i dderbyn gofal gyda’i gilydd. Gwelwyd ffrwyth y project ar S4C yn ddiweddar, yn y rhaglen Hen Blant Bach, a gynhyrchwyd gan gwmni Darlun.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017