Angen mwy o nyrsys seiciatrig i ddelio ag argyfwng iechyd meddwl Covid

Mae rhybudd gan Sefydliad Iechyd y Byd am gynnydd aruthrol mewn achosion o iselder a achoswyd gan y pandemig wedi arwain at alw ar fwy o bobl i wneud cais i hyfforddi fel nyrsys iechyd meddwl gan un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru.

Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn hyfforddi myfyrwyr nyrsio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, un o'r byrddau iechyd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion iechyd meddwl.

Mae arolwg Sefydliad Iechyd y Byd wedi dangos bod y pandemig wedi amharu'n fawr ar wasanaethau iechyd meddwl critigol mewn 93% o wledydd ledled y byd a bod y galw am iechyd meddwl yn cynyddu ac mae'r sefydliad yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau.

Ledled y Deyrnas Unedig roedd bron i un o bob pump oedolyn yn debygol o ddioddef rhyw fath o iselder ym mis Mehefin, yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bron i ddwbl y gyfradd cyn y pandemig.

Nid yw gogledd Cymru yn eithriad ac mae Dr Seren Roberts, o Ddinbych, Darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl ar gampws Wrecsam Prifysgol Bangor, yn disgwyl y bydd galw cynyddol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd effeithiau corfforol a seicolegol Covid, yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol ac economaidd y feirws.

Meddai Dr Roberts, sy'n dod o deulu o nyrsys iechyd meddwl a fu'n gweithio yn yr hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych: “Mae sefyllfa Covid-19 wedi rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd meddwl gan fod y sefyllfa wedi cael effaith ddifrifol iawn ar iechyd meddwl y boblogaeth.

Dr Seren RobertsDr Seren Roberts“Mae Covid-19 wedi golygu bod galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl a bod cael mynediad at y gwasanaethau'n fwy heriol, sydd wedi golygu efallai nad yw llawer o bobl yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw ac mae diffyg cyswllt â phobl eraill wedi golygu mwy o unigrwydd.

“Rydyn ni angen cyswllt â phobl eraill ond sut allwn ni gael hynny pan rydyn ni dan glo.

“Mae wedi dangos bod angen mwy nyrsys iechyd meddwl ac o wahanol gefndiroedd ac rydyn ni wedi cydnabod hynny ac rydyn ni'n ei gwneud yn haws i bobl gael y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw.

“Mae cymaint o wahanol lwybrau ym maes nyrsio iechyd meddwl ac y dyddiau yma mae llawer mwy yn digwydd yn y gymuned nag mewn ysbytai oherwydd ei fod yn well i iechyd meddwl pobl os ydyn nhw'n cael aros yn eu cartrefi ac mewn gwaith.”

Ymhlith y rhai sydd wedi newid gyrfa i hyfforddi fel nyrs iechyd meddwl mae'r cyn-athro ysgol Daniel Fowler, sy'n gorfod hunan ynysu oddi wrth ei rieni ar hyn o bryd er mwyn cwblhau ei gwrs.

Chwe mis sydd ganddo ar ôl cyn ennill ei radd ond mae'r pandemig wedi gwneud pethau'n anodd wrth iddo gwblhau ei leoliadau cwrs olaf, fel rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod yn y Rhyl.

Daniel FowlerDaniel FowlerMeddai'r myfyriwr 28 oed: “Rydw i wedi mwynhau'r cwrs yn fawr ond mae llawer o'r bobl rydw i'n gweithio efo nhw yn fregus ac rydw i'n byw efo fy rhieni ac mae'n rhaid i mi gymryd gofal er mwyn sicrhau nad ydw i'n eu peryglu.

“Mae’n golygu bod rhaid i mi wisgo mwgwd yn y tŷ ac aros yn fy ystafell gymaint â phosib, ond mi fydd werth o yn y diwedd.

“Dw i newydd ddechrau lleoliad newydd yn gweithio efo oedolion efo problemau iechyd meddwl yn y Rhyl, sydd efallai yr un mor fregus hefyd.”

Tra bod lleoliadau Daniel yn golygu ei fod yn parhau i weld cleifion wyneb yn wyneb, mae ei gwrs wedi dod yn fwy tebyg i gwrs dysgu o bell ers i'r cyfyngiadau Covid-19 ddod i rym gyda llawer o'r gwaith yn digwydd ar-lein.

Dechreuodd ei gysylltiad â'r gwasanaethau iechyd pan oedd yn ifanc - roedd yn wirfoddolwr yn Ysbyty Glan Clwyd gyda "The Robins", sefydliad gwirfoddol sy'n helpu staff gyda lluniaeth, gwasanaethau darllen ac ysgrifennu, danfon negeseuon, gwneud gwelyau a bod yn wyneb cyfeillgar a bod yn barod am sgwrs.

Meddai Daniel: “Roeddwn yn mwynhau cymryd rhan a helpu  ond pan ddaeth yn amser imi ddewis gradd ar ôl gwneud fy Lefel A, roeddwn eisiau mynd dramor felly gwnes radd astudiaethau busnes efo Sbaeneg ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, treuliais amser yn Sbaen a dysgu Saesneg tra roeddwn yno.

“Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud ond wedyn gwnes hyfforddi fel athro ysgol gynradd ac rydw i wedi dysgu mewn ysgolion yng Nghonwy ac wedi mwynhau'r gwaith.

“Fel rhan o’r dysgu, roeddwn yn gweithio efo plant efo problemau iechyd meddwl a dyna pryd sylweddolais mai dyna roeddwn i wir eisiau ei wneud, felly newidiais gyfeiriad yn gyfan gwbl a dydw i ddim wedi difaru gwneud.

“Mae wedi bod yn dipyn o brofiad oherwydd y pandemig, gan nad ydych byth yn gwybod beth fydd o'ch blaen bob dydd.

“Mae pobl yn y sector yma wedi bod drwy gymaint felly mae'r gofal rydych yn ei roi yn golygu llawer iawn iddyn nhw - rydych yn gweld bywyd a marwolaeth, caledi a dioddefaint.

“Rydych yn teimlo eich bod yn cael cipolwg ar fywyd rhywun ac rydych eisiau gwneud eich gorau glas i'w helpu i gael y bywyd gorau posib.

“Dw i wedi gweithio efo plant a dw i wedi gweithio efo pobl sy'n 100 oed - mae'n anhygoel ac mae pob lleoliad rydych yn ei wneud yn wahanol ac mor gyffrous.”

Mae lleoliadau Daniel wedi cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn Abergele a Ward Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd sy'n trin cyflyrau fel sgitsoffrenia, cam-drin sylweddau, pryder ac iselder.

Ychwanegodd: “Roeddwn yn meddwl fy mod eisiau gweithio efo plant a phobl ifanc ond er tegwch dw i wedi bod wrth fy modd ym mhob lleoliad ac wedi mwynhau pob agwedd ar y swydd ac wedi gwerthfawrogi proffesiynoldeb y staff.”

Dr Roberts yw tiwtor personol Daniel a dywedodd: “Mae Daniel yn garedig ac yn feddylgar, sy'n ei wneud yn ymgeisydd nyrsio delfrydol ac mae wedi bod yn wych ei weld yn tyfu ac yn datblygu i fod yn nyrs iechyd meddwl dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. 

“Roedd ei gydymdeimlad at bobl eraill yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.  Mae nyrsio iechyd meddwl yn yrfa wych i bobl sydd eisiau helpu pobl eraill a dyma a ddenodd Daniel i'r maes.

“Dangosodd ei brofiad o weithio efo plant yn yr ystafell ddosbarth iddo bod angen cymorth iechyd meddwl ychwanegol ar rai pobl ifanc ac mae wedi rhoi dealltwriaeth ychwanegol i Daniel ym maes nyrsio.

“Mae Daniel wedi dod i nyrsio iechyd meddwl efo meddwl agored a bydd ei frwdfrydedd, ei ymrwymiad a’i ddiddordeb gwirioneddol yn ei wneud yn nyrs ragorol.

“Mae’n dangos y gall unrhyw un o unrhyw gefndir galwedigaethol neu broffesiynol  astudio nyrsio iechyd meddwl efo ni os ydyn nhw'n rhannu ein gwerthoedd.”

Am fwy o wybodaeth am nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor ewch i https://www.bangor.ac.uk/courses/undergraduate/B762-Mental-Health-Nursing

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2020